Llys yn clywed fod dyn a laddodd ei wraig yn 'poeni y byddai'n mynd gyda rhywun arall'
Mae dyn a dagodd ei wraig i farwolaeth yn ei gwely wedi dweud wrth lys iddo wneud hynny oherwydd pryderon y byddai'n mynd gyda rhywun arall.
Mae Michael Davies wedi pledio'n euog i ddynladdiad Tracey Davies ond mae'n gwadu ei llofruddio hi.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth i Michael Davies dagu ei wraig yn eu cartref yng Nghefn Criwbwr, Penybont -ar Ogwr, cyn trywanu ei hun ar fore 18 Ebrill y llynedd.
Clywodd y rheithgor fod y gŵr 57 oed wedi chwilio ar y we am fanylion ynghylch "meddyliau paranoiaidd tra mewn perthynas" a sut i atal "eiddigedd mewn perthynas." yn yr wythnosau cyn yr ymosodiad.
Roedd gan Michael a Tracey Davies, blant o berthynasoedd blaenorol. Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn 2020 a phriodi yn 2024.
Clywodd y llys fod Michael Davies, cyn aelod o'r fyddin, yn gweithio yn y diwydiant diogelwch yn Abu Dhabi ar y pryd. Roedd wedi ei anfon adref gan ei reolwr.
Dywedodd Mark Cotter KC, ar ran yr erlyniad fod aelodau o'r teulu wedi codi pryderon am les Mr Davies ers iddo ddychwelyd adref ar 11 Ebrill 2025, gan ei fod wedi colli pwysau ac wedi ymbellhau oddi wrthyn nhw.
Clywodd y llys iddo ddweud wrth deulu a ffrindiau fod ganddo broblemau iechyd meddwl, yn enwedig tra'n y Dwyrain Canol ac iddo gael meddyginiaeth ar gyfer iselder a thabledi cysgu.
Dywedodd wrth ei chwaer ei fod yn poeni y gallai ei wraig "fynd gyda rhywun arall" a'i fod hefyd yn pryderu y gallai "ymdebygu" i'w dad. Yn ôl adroddiadau roedd gan ei dad broblemau iechyd meddwl pan roedd Michael Davies yn ei arddegau.
Cafodd Tracey Davies ei darganfod yn farw yn ei hystafell wely ar 18 Ebrill 2025, ar ôl i aelodau o'i theulu fynd i mewn i'r cartref, am nad oedd hi wedi cysylltu â nhw.
Yn ôl archwiliad post mortem, roedd hi wedi marw o ganlyniad i bwysau ar ei gwddf.
Dywedodd Michael Davies wrth yr heddlu fod ei wraig wedi gadael y gwely y bore hwnnw i wneud coffi ond ei bod hi yn hytrach wedi mynd i'r ystafell ymolchi cyn dychwleyd i'r ystafell wely ac i'r ddau gofleidio.
Yn ôl y diffynydd, yr hyn mae'n ei gofio nesaf ydy eistedd ar frest ei wraig a rhoi ei ddwylo o amgylch ei gwddf.
Mae e'n gwadu iddo ladd ei wraig yn fwriadol nac achosi niwed corfforol difrifol iddi hi.
Mae'r achos yn parhau.