Llun yn ymddangos o Andrew, Mandelson ac Epstein gyda'i gilydd

Andrew, Epstein a Mandelson

Mae llun wedi ymddangos o Andrew Mountbatten-Windsor a Peter Mandelson gyda'r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Cafodd y llun (sydd heb ei ddyddio) ei gyhoeddi fel rhan o'r ffeiliau Epstein gan adran gyfiawnder Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gynharach eleni.

Mae'r llun, a gafodd ei gyhoeddi'n wreiddiol gan ITV News, yn dangos Andrew a Mandelson yn eistedd y tu allan wrth fwrdd pren.

Dywedodd y darlledwr fod y llun wedi'i dynnu yn Martha's Vineyard, sef ynys yn nhalaith Massachusetts yn America.

Y gred yw mai dyma'r llun cyntaf o'r ddau ddyn gydag Epstein i gael ei ddarganfod.

Mae'r ddau yn gwisgo cobeni bath gwyn, sy'n debyg i lun a gafodd ei ddarganfod yn flaenorol o Peter Mandelson yn "llyfr pen-blwydd" Epstein.

Mae'r llun o Mandelson yn y llyfr pen-blwydd hefyd yn ei ddangos mewn coban, gyda neges sy'n disgrifio Epstein fel ei "gyfaill gorau".

Mae Andrew, cyn-Ddug Efrog, a Peter Mandelson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swyddi cyhoeddus dros eu cysylltiadau â'r pedoffeil ac mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau ers hynny ond yn parhau dan ymchwiliad.

Mae'r ddau ddyn yn ymddangos nifer o weithiau yn y ffeiliau Epstein, gan gynnwys lluniau o Andrew yn plygu dros fenyw ac yn gorwedd ar draws glin nifer o fenywod.

Mae Andrew a Mandelson wedi gwadu eu bod wedi gwneud unrhywbeth o'i le.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.