Llong ofod Artemis II yn dychwelyd o du hwnt i'r Lleuad
Mae llong ofod Artemis II yn dychwelyd i'r Ddaear ar ôl ei thaith i ochr draw y Lleuad.
Fe lwyddodd y criw o ofodwyr i dorri'r record am y pellter hiraf o'r Ddaear y mae pobl erioed wedi ei gyrraedd, gan fynd mor bell a 252,757 o filltiroedd.
Mae hynny'n torri'r record flaenorol a gafodd ei gosod gan griw Apollo 13 yn 1970, a deithiodd 248,655 milltir o'r Ddaear.
Dyma hefyd y tro cyntaf i ofodwyr adael orbit y ddaear ers 1972, dros 50 mlynedd yn ôl.
Nos Lun, fe wnaeth y llong ofod basio heibio'r Lleuad, gan golli cyswllt am tua 40 munud.
Roedd y signalau radio a laser sydd yn caniatáu cyfathrebu rhwng Artemis II a chriw Nasa ar y ddaear yn cael eu hatal gan y Lleuad ei hun.
Dywedodd y gofodwr Victor Glover ei fod yn gobeithio y bydd y byd yn defnyddio'r profiad i ddod at ei gilydd.
"Pan rydym ni y tu ôl i'r Lleuad, allan o gyswllt â phawb, gadewch i ni ddefnyddio hynny fel cyfle," meddai.
Dyma oedd yr agosaf y bydd y llong ofod yn dod i wyneb y Lleuad.
Cafodd y roced sydd yn 322 troedfedd o hyd ac yn cludo pedwar aelod o'r criw ei lansio yn llwyddiannus o Cape Canaveral yn Florida, UDA ddydd Mercher diwethaf.
Roedd y pedwar gofodwr, sef Reid Wiseman, Victor Glover, Christina Koch a Jeremy Hansen, wedi cylchdroi'r Ddaear am tua 25 awr cyn anelu tuag at y Lleuad.
Ni fydd y criw yn glanio ar y Lleuad ei hun yn ystod y daith. Y bwriad oedd teithio heibio'r Lleuad, sydd 244,000 o filltiroedd i ffwrdd.
Er na fydd y gofodwyr yn glanio ar y lloeren, mae taith Artemis II yn paratoi'r ffordd ar gyfer glanio ar y Lleuad yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gosod sylfaen i anfon criw i blaned Mawrth meddai Nasa.
Gobaith Nasa yw bydd gofodwyr yn dychwelyd i'r Lleuad cyn 2028, tra bod Tsieina yn anelu i wneud hynny erbyn 2030.
