Llawer o wybodaeth newydd yn yr ymchwiliad i gorff mewn cronfa ddŵr

Cronfa Ddwr

Mae swyddogion sydd yn ceisio adnabod corff dyn gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys ym mis Hydref 2024 yn dweud bod "talp sylweddol o wybodaeth newydd" wedi dod i'r fei yn dilyn apêl o'r newydd yn ddiweddar.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn rhwng 50 a 70 o alwadau, e-byst ac adroddiadau cychwynnol trwy eu gwefan ar ôl cyhoeddi delwedd o wyneb y dyn yr wythnos ddiwethaf.

Roedd yr heddlu wedi gweithio gyda Face Lab ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i gynhyrchu delwedd o wyneb y dyn sydd heb ei adnabod eto, yn y gobaith o gyrraedd rhywun a all helpu i ddarparu gwybodaeth yn yr achos.

Fe dderbyniodd Heddlu Dyfed-Powys alwad 999 ychydig cyn 08.30 ar 18 Hydref 2024, yn adrodd bod corff dyn wedi cael ei weld yn y dŵr yng nghronfa ddŵr Claerwen gan gerddwr. 

Fe aeth y gwasanaethau brys i'r lleoliad oedd mewn rhan anghysbell o'r gronfa ddŵr, a dod o hyd i'r corff. 

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod y dyn rhwng 30 a 60 oed, yn wyn, ac yn chwe troedfedd o daldra. 

Y gred yw bod y corff wedi bod yn y dŵr ers hyd at 12 wythnos. 

Doedd dim eiddo personol o amgylch y gronfa ddŵr a dim oriawr na gemwaith yn cael eu gwisgo gan y dyn. 

Yr unig eitem oedd ar gael i swyddogion wneud ymholiadau oedd siwt wlyb, neu 'wetsuit'.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, sydd wedi arwain yr ymchwiliad: “Rydym wedi cael nifer sylweddol o adroddiadau drwy ganolfan reoli ein heddlu a phorth cyhoeddus ar gyfer digwyddiadau mawr, ac rydym yn gweithio ein ffordd drwyddynt ac yn eu hasesu’n unigol.

“Mae’r wybodaeth yn amrywio o enwau penodol unigolion y byddwn yn eu gwirio, i adroddiadau mwy amwys a allai gymryd peth amser i’w dilyn.

“Waeth beth fo lefel y manylder sy'n cael ei dderbyn, byddwn yn blaenoriaethu ac yn edrych ar bob adroddiad i benderfynu pa ymholiad rhesymol y gellir eu cynnal.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi darparu gwybodaeth hyd yn hyn, a hoffwn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallent helpu nad ydynt wedi bod mewn cysylltiad â ni eto, i gysylltu.”

 
 
 
 
 
 


 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.