Linus Roache yn tynnu'n ôl o ddrama am fywyd Owain Glyndŵr o achos salwch
Mae'r actor Prydeinig Linus Roache wedi tynnu'n ôl o'r cynhyrchiad Owain & Henry, sy'n adrodd hanes Owain Glyndŵr.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Canolfan Mileniwm Cymru fod Roache wedi gorfod rhoi'r gorau i'w rôl oherwydd salwch.
Yr actor Nigel Barrett nawr fydd yn camu i'r rôl.
Roedd Roache a Michael Sheen yn chwarae'r prif rannau yn y cynhyrchiad.
Mae'r ddrama yn adrodd hanes gwrthryfel yr uchelwr Cymreig Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr ar ddechrau'r 15fed ganrif.
Mae wedi'i hysgrifennu gan Gary Owen a'i chyfarwyddo ar y cyd gan Michael Sheen a Steffan Donnelly.
Mewn datganiad, dywedodd Canolfan Mileniwm Cymru: "Yn anffodus, mae Linus Roache wedi gorfod tynnu'n ôl o Owain & Henry oherwydd salwch. Bydd yr actor nodedig Nigel Barrett yn cymryd drosodd rôl Henry o nawr ymlaen.
"Mae Nigel wedi ennill Gwobr The Stage am yr Actor Gorau a Gwobr Theatr Samuel Beckett, ac ymhlith ei waith theatr nodedig mae Hamnet a Julius Caesar gyda’r Royal Shakespeare Company.
"Rydym yn diolch yn fawr iawn i Linus am ei amser a'i waith ar y sioe, ac rydym yn anfon ein dymuniadau gorau iddo am wellhad cyflym."
Mae Michael Sheen wedi sôn yn y gorffennol am y "cyfrifoldeb enfawr" y mae'n ei deimlo wrth adrodd stori Owain Glyndŵr.
Dywedodd wrth ITV Cymru: “Mae’r cyfrifoldeb o adrodd y stori hon, a’r ffaith nad yw hi erioed wedi cael ei hadrodd ar y fath raddfa o’r blaen, yn golygu bod y cyfrifoldeb yn enfawr.
“Beth sy’n bwysig i ni, a beth ddylen ni frwydro drosto? Roedd y cwestiynau hynny’n fyw iawn, iawn wrth ddatblygu’r darn hwn."
Dechreuodd y cynhyrchiad ar 5 Tachwedd a bydd yn parhau i gael ei lwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru tan 28 Tachwedd.
Llun: Welsh National Theatre

