Jonny Clayton yn ennill yn Uwch Gynghrair y Dartiau er ei fod yn 'dioddef gyda gowt'

Jonny Clayton

Daeth Jonny Clayton yn fuddugol yn Uwch Gynghrair y Dartiau nos Iau er gwaethaf y ffaith ei fod yn dioddef gyda gowt yn ei ffêr.

Mae’r Cymro wyth pwynt yn glir o’i gystadleuwyr yn nhabl y gystadleuaeth ar ôl iddo ennill 6-1 yn y rownd derfynol yn Nottingham yn erbyn cyn bencampwr y byd, Luke Humphries.

Ond ar ôl y fuddugoliaeth, dywedodd y gŵr o Bontyberem ei fod wedi bod yn noson anodd iddo wrth geisio ymdopi â’r poen.

"Do’n i ddim yn disgwyl llawer i fod yn onest. Roeddwn i’n diodde' 'da gowt yn fy ffêr," meddai.

"Roedd ychydig yn anodd, ond roedd y fraich yn iawn a dyna’r peth pwysicaf."

Roedd y Ferret, a enillodd yr Uwch Gynghrair yn 2021, wedi curo Michael van Gerwen a Stephen Bunting 6-3 ar y ffordd i’r rownd derfynol nos Iau.

Wedi chwe rownd o’r Uwch Gynghrair, dyma’r ail noson iddo ennill hyd yn hyn. Gyda Clayton ar frig y tabl, mae ei gyd-Gymro, Gerwyn Price, yn y trydydd safle.

"Dyma fy hoff gystadleuaeth," ychwanegodd Clayton. "Rwy’n caru ‘e. Rwy’n gobeithio fy mod i’n profi pam dylwn i fod ynddo fe, a bod fy nartiau yn gwneud y siarad."

Wedi'r fuddugoliaeth nos Iau mae Clayton wedi tynnu allan o gystadleuaeth y Tlws Ewropeaidd ddydd Sadwrn.

Cyhoeddodd y PDC, corff llywodraethu'r gamp fore Gwener fod Clayton wedi tynnu allan oherwydd ei fod yn dioddef gyda gowt yn ei ffêr.

Mae Cam Crabtree o Loegr wedi cymryd ei le yn y gystadleuaeth yn Goettingen yn yr Almaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.