Heddlu'n apelio ar ôl difrod i gastell mwnt a beili yn y gogledd

Neuadd Erddig

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i gastell mwnt a beili gael ei ddifrodi ar dir plasty ger Wrecsam.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau o feiciau trydan yn cael eu gyrru ar olion y castell ar dir Neuadd Erddig.

Mae'r digwyddiad ar 10 Ebrill wedi achosi difrod i strwythur yr olion, meddai'r llu.

Mae Dave Allen o Uned Troseddau Cefn Gwlad yr heddlu yn apelio am wybodaeth allai fod o gymorth i'w hymchwiliad.

"Mae'r unigolion wedi defnyddio eu beiciau trydan yn yr ardal hon heb ofyn caniatâd gan berchennog y tir ac wedi cyflawni troseddau treftadaeth," meddai.

"Mae olion y castell wedi eu dynodi gan CADW am eu gwerth hanesyddol ac mae angen eu hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y difrod yn Erddig gysylltu gyda'r heddlu trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod O054202."

Mae castell Erddig yn gaer mwnt a beili o ddiwedd yr 11eg ganrif, ac mae’n debyg iddi gael ei sefydlu gan Hugh de Avranches, iarll Caer ar ddarn o dir uchel uwchben Afon Clywedog.

Mae'n bosib mai dyma'r 'castell Wristleham' a gafodd ei grybwyll yng nghofnodion treth y Brenin Harri II yn 1161.

Ar ochr orllewinol y safle, mae Clawdd Wat, sef cloddwaith amddiffynnol o’r 8fed ganrif. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.