Gwasanaeth bws newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin i ddechrau fis Hydref

Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Mark Hooper AS a Bws TaithCymru
Mark Hooper AS a'r Bws TaithCymru

Bydd gwasanaeth bws pellter hir newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin o'r enw 'TaithCymru' yn dechrau ddydd Sul 25 Hydref yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd TaithCymru yn rhedeg bob dydd ac yn galw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.

Mae disgwyl i’r daith rhwng Bangor a Chaerfyrddin gymryd rhwng pedair awr a 45 munud a phum awr, dros awr yn gyflymach na’r dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus presennol, medd y llywodraeth.

Bydd modd prynu tocynnau o 10.00 ddydd Mawrth 6 Hydref drwy system archebu ar-lein newydd gan Trafnidiaeth Cymru.

Nid yw prisiau’r tocynnau wedi cael eu cadarnhau eto, ond byddan nhw’n cael eu cyhoeddi pan fydd y system archebu’n mynd yn fyw.

Buddsoddi £2 filiwn

Mae £2 filiwn wedi’i neilltuo ar gyfer blwyddyn gyntaf y gwasanaeth, gan gynnwys cost datblygu’r system archebu a hyrwyddo TaithCymru.

Mae wyth bws newydd wedi’u prynu i redeg y gwasanaeth gyda chefnogaeth rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru.

Mae’r gwasanaeth yn un o ymrwymiadau 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru ac yn rhan o’u bwriad i greu "rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy cydgysylltiedig."

Bydd yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau TrawsCymru, bysiau lleol a gwasanaethau 'Fflecsi.'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper: “Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio’n gyflym i gwblhau’r cynllun hwn ac rwy’n falch o gyhoeddi y bydd yn cael ei lansio ar 25 Hydref.

“Mae TaithCymru yn chwarae rôl hanfodol bwysig wrth gysylltu trefi a chymunedau, gan ei gwneud yn ffordd gyflymach, haws a mwy dibynadwy o deithio er mwyn cyrraedd gwaith, addysg a hamdden.”

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru: “Mae TaithCymru yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn wrth wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru.

“Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau teithiau cyflymach, mwy cyfleus a mwy cynaliadwy, gan helpu pobl i gael mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden, wrth gefnogi ein huchelgais ehangach o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig i Gymru.”

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig ffordd o deithio i lefydd fel Parc Cenedlaethol Eryri, Pen Llŷn a Bae Ceredigion heb ddefnyddio car.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.