Gerwyn Price yn rownd derfynol Camp Lawn Dartiau

Gerwyn Price

Fe fydd y Cymro Gerwyn Price yn cystadlu yn rownd derfynol Camp Lawn Dartiau nos Sul.

Fe wnaeth Price, 41 oed o Markham yn Sir Caerffili, guro Kevin Doets o’r Iseldiroedd yn y rownd gyn-derfynol yn gynharach ddydd Sul o 16-13.

Fe fydd Price nawr yn wynebu nail ai Michael Van Gerwen neu Gian van Veen, y ddau o’r Iseldiroedd, yn y rownd derfynol yn hwyrach nos Sul gyda’r chwarae yn cychwyn am 19:45.

Wrth guro Doets, fe sgoriodd Price gyfartaledd o 95.03 am dri darten.

Dywedodd Price yn dilyn ei fuddugoliaeth: "Roeddwn i'n meddwl ei fod yn debyg i'r gêm ddiwethaf. 

"Doeddwn i ddim yn gallu sgorio, ond roeddwn i'n dal ati ac yn gobeithio y byddai'r dyblau'n mynd i mewn. 

"Rwy wedi cyrraedd rownd derfynol arall, er nad wy'n chwarae mor dda â hynny. 

"Rwy wedi bod yn dda ar adegau, ond rwy mewn rownd derfynol arall ac rwy'n hapus.

"Mae'n debyg mai fi fu'r chwaraewr mwyaf cyson y tymor hwn o ran y prif dwrnameintiau. 

"Wrth gwrs, rwy eisiau ennill, ac mae pwyntiau safle pwysig ar gael, ond rwy'n hapus iawn i gyrraedd rownd derfynol arall.

"Mae ots gen i, ond os byddaf yn colli, wel, roedd hi'n rownd derfynol o leiaf. 

"Chwaraewr rygbi ydw i mewn gwirionedd – dim ond ceisio ennill bywoliaeth yma ydw i!"

Llun: Facebook/Darts Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.