Galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyngor cliriach ar ymyrraeth feddygol mewn ysgolion
Galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyngor cliriach ar ymyrraeth feddygol mewn ysgolion
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i roi cyngor cliriach ar ymyrraeth feddygol mewn ysgolion.
Yn ôl un undeb addysg ma' 'na sawl enghraifft ar draws Cymru o'r cyfrifoldeb yn disgyn ar 'sgwyddau cynorthwywyr dysgu, yn hytrach na nyrsus arbenigol.
Mae athrawon a rhieni mewn un ysgol anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Gâr wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n poeni ar ôl i arolwg Estyn nodi bod "ddiffyg nyrs ysgol dynodedig" ar y safle.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n "datblygu cyngor cliriach" ar gyfrifoldebau gwasanaethau addysg a iechyd.
Ysgol anghenion dysgu ychwanegol yw Ysgol Heol Goffa yn Llanelli. Mae gan nifer o ddisgyblion yr anghenion iechyd cymhleth - ac ar adegau angen ymyrraeth feddygol.
Yn aml, cynorthwywyr dysgu sy'n gorfod darparu'r ymyrraeth honno - rhywbeth sy'n poeni rhieni, fel Hannah Coles. Mae ei mab Seb yn anabl, yn defnyddio cadair olwyn, ac yn methu llyncu, felly yn defnyddio tiwb i fwyta.
“Mae rhaid Seb cael support efo popeth. Mae rhaid i rywun rhoi bwyd iddo fe, ma' ganddo fe emergency medication trwy’r tiwb, Mae’n cael UTI’s (Urinary Tract Infection) trwy’r amser, mae’n epileptig. Mae llawer o bethau i ddweud gwir”.
Os oes rhywbeth yn bod ar Seb, wedyn y cynorthwywyr dysgu sy'n gorfod camu i helpu yn ol Hannah.
“Fi yn lwcus mae staff yma yn ardderchog ac maen nhw yn gallu gwneud e. Ond ma' ofn arna i ddweud gwir. Mae’r plant yn dod tu ôl i Seb nawr yn fwy complex. Mae rhai plant hyn yn cael bwyd yn ei veins, tracheostomy care”.
Fe nath arolwg diweddar gan Estyn nodi bod 'na "ddiffyg nyrs ysgol ddynodedig" ar safle Ysgol Heol Goffa, a bod hynny yn "effeithio ar lefel y cymorth meddygol parhaus" sydd ar gael i ddisgyblion.
Mae pryderon felly fod y cyfrifoldeb hwnnw yn disgyn ar ysgwyddau cynorthwyrwyr dysgu yn ôl dirprwy bennaeth yr ysgol, Helen Ley.
“Mae gormod o bwysau arnyn nhw chi'n gwybod. O ran diogelwch y plant a diogelwch y staff. Ni'n yn pryderu faint o bwysau sydd arnyn nhw ar y funud ac mae Estyn wedi pigo lan ar hynny."
Dryswch o ran cyfrifoldeb "pwy sydd fod i ddarparu'r gofal" yw'r broblem yn ôl cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol.
“Y trafodaethau ry' ni wedi cael ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn dweud 'wel maen nhw mewn ysgol felly addysg sydd fod i wneud e', mae'r adran addysg yn dweud 'mai’n ddarpariaeth feddygol felly yr adran iechyd sydd gorfod gwneud e.
"I fi mae’r arian yn dod o’r un ffynhonnell o ran Llywodraeth Cymru boed e yn addysg neu iechyd.” Ychwanegodd y cadeirydd.
'Dibynnu go iawn le ydych chi'
Mae yna bryder am y sefyllfa ar draws Cymru. Yn ôl arolwg gan Undeb Prifathrawon NAHT Cymru, roedd 92% o'r rhai wnaeth ymateb yn dweud bod staff yn eu hysgolion yn gorfod darparu ymyrraeth feddygol, tra fod 88% yn dweud eu bod yn cael hyfforddiant, a dim ond 33% oedd yn credu bod yr hyfforddiant hwnnw'n ddigonol.
“Dros Gymru gyfan mae’r cyngor a’r gefnogaeth yn patchy iawn," meddai Huw Jones, Is Lywydd NAHT Cymru, sy'n galw am un cynllun cenedlaethol.
"Mae’n dibynnu go iawn le ydych chi a pha fwrdd iechyd rych chi efo.
"So byddai canllawiau cenedlaethol yn cefnogi ysgolion a staff dysgu, a hefyd yn cefnogi y plant yn y dyfodol."
Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n "gweithio gyda chyflogwyr ac undebau" i sicrhau bod "cyfrifoldebau Cynorthwywyr Dysgu yn glir", ac yn cael eu cefnogi.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud eu bod nhw hefyd am "ddatblygu cyngor cliriach" ar gyfrifoldebau gwasanaethau addysg a iechyd.
Yn achos Ysgol Heol Goffa, fe ddywedodd Cyngor Sir Gâr eu bod nhw wedi "ymgysylltu â'r Bwrdd Iechyd" am y sefyllfa, a'u bod nhw wedi "ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy"
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda "eu bod nhw'n cydnabod darganfyddiadau arolwg Estyn" a'u bod nhw'n "gweithio i ddeall anghenion ychwanegol yr ysgol a'r staff."