Ffrae chwerw Sinn Féin a'r DUP yn bygwth dyfodol llywodraeth Gogledd Iwerddon

Stormont PA

Mae ffrae chwerw yn bygwth rhwygo llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon, gyda chynllun i gyfarfod prif weinidog Cymru a gweddill arweinwyr y DU ddydd Gwener yn ganolbwynt i'r gwrthdaro mewnol.

Clymblaid rhwng y blaid werininaethol fwyaf, Sinn Féin, a’r blaid unoliaethol fwyaf, y DUP, ydy’r llywodraeth yn Belffast, yn unol â rheolau unigryw y rhanbarth.

Ond mae’r Prif Weinidog Michelle O’Neill, sy’n dod o Sinn Féin, yn dweud bod ei dirprwy o’r DUP, Emma Little-Pengelly, wedi ei “blocio” rhag mynd i gynhadledd The Economic Forum yn Glasgow ddydd Gwener.

Cyhoeddodd arweinydd y DUP brynhawn Iau y byddai Ms Little-Pengelly yn rhoi’r gorau i wneud digwyddiadau ar y cyd â Ms O’Neill.

Beth ddigwyddodd?

Roedd disgwyl i Ms O’Neill gyfarfod arweinwyr Cymru a’r Alban, Rhun ap Iorwerth a John Swinney, ar ymylon y digwyddiad, gan gwrdd â Phrif Weinidog y DU, Andy Burnham, ar wahân gyda Ms Little-Pengelly.

Ond dywedodd Ms O’Neill bod ei dirprwy - sy’n cael ei hystyried yn gyd-arweinydd yn ôl y drefn yng Ngogledd Iwerddon - wedi “penderfynu rhwystro cynrychiolaeth o fan hyn mewn digwyddiad gwleidyddol arwyddocaol.”

Yn ganolog i’r cyfan mae ymchwiliad heddlu sy’n cael ei gynnal i bresenoldeb Sinn Féin mewn protestiadau i atal yr Urdd Oren - sefydliad Protestanaidd dadleuol - rhag gorymdeithio drwy ardal genedlaetholgar a Catholig Garvaghy Road yn nhref Portadown.

Mae Ms O’Neill ac aelodau amlwg eraill o’r blaid wedi cael eu cyfweld fel rhan o ymchwiliad gan yr heddlu i’r protestiadau oedd ddim wedi cael eu cyhoeddi o flaen llaw.

Dim chwalu llywodraeth - eto
 
Wrth gyhoeddi brynhawn Iau y byddai Ms Little-Pengelly yn rhoi’r gorau i wneud digwyddiadau ar y cyd â Ms O’Neill, dywedodd Gavin Robison, arweinydd y DUP, na fyddai’r Dirprwy Brif Weinidog yn caniatau i Ms O’Neill gymryd rhan mewn digwyddiadau ar ei phen ei hun fel Prif Weinidog, ychwaith.

Fe allai’r DUP, a ddatgelodd y mesurau wedi cyfarfod o uwch swyddogion, fod wedi mynd cam yn bellach a thynnu Ms Little-Pengelly yn ôl o’i swydd - penderfyniad a fyddai wedi arwain at chwalu’r llywodraeth yn Belffast.

Er na ddigwyddodd hynny, gwrthododd Mr Robinson â diystyru hynny wrth siarad â newyddiadurwyr.

Mae Ms O’Neill a’i phlaid wedi disgrifio penderfyniad y DUP fel “stỳnt” wleidyddol.

Daeth Ms O’Neill, Mr ap Iorwerth a Mr Swinney - sydd i gyd yn arwain pleidiau cenedlaetholgar - at ei gilydd yng Nghaerdydd ym mis Medi i ddatgan bod “amser San Steffan yn dod i ben.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.