‘Amser San Steffan yn dod i ben’ medd arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin
Mae arweinwyr datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi datgan bod “amser San Steffan yn dod i ben” wrth gwrdd yng Nghaerdydd.
Mae Plaid Cymru, SNP a Sinn Féin wedi cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd i gryfhau cydweithrediad rhwng y tair plaid, medden nhw.
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O'Neill, a Llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, wedi arwyddo'r ddogfen.
Roedd yr arweinwyr yn cwrdd fel penaethiaid eu pleidiau gwleidyddol yn hytrach na mewn capasiti llywodraethol.
“Mae gan bob un o'n cenhedloedd yr hawl i benderfynu ar ei ddyfodol ei hun, trwy ddulliau democrataidd ac yn unol â dymuniadau ei phobl,” meddai’r memorandwm.
Mae’n ychwanegu: “Am y tro cyntaf erioed, mae gan bobl ar draws yr ynysoedd hyn Brif Weinidogion yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon sydd i gyd wedi ymrwymo i annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig.
“I bobl sy'n gwylio ar draws yr ynysoedd hyn - i bobl sy'n gwylio ledled y byd - ni allai fod arwydd cliriach bod amser San Steffan yn dod i ben.”
Mae’n nodi ymrwymiad i weithio gyda'i gilydd ar feysydd ymarferol o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys:
- Ynni adnewyddadwy
- Adeiladu economïau cryfach a thecach
- Cryfhau perthynas ag Ewrop
- Cefnogi hawl pob cenedl i benderfynu ar ei dyfodol ei hun.
Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys y gred bod “dyfodol ein cenhedloedd yn perthyn i'r Undeb Ewropeaidd”.
“Rydym am weithio gyda'n gilydd i ailadeiladu a chryfhau'r perthnasoedd Ewropeaidd hynny, gan greu mwy o gyfleoedd ar gyfer masnach, buddsoddiad, diwylliant a chydweithrediad,” medden nhw.
“Mae gan ein cenhedloedd yr hawl i hunanbenderfyniad. Nid oes gan unrhyw lywodraeth San Steffan yr hawl i rwystro democratiaeth neu danseilio'r egwyddor y bydd ein pobl yn penderfynu ar eu dyfodol eu hunain.”
'Cam arall'
Mae’r cyfarfod yn “garreg filltir allweddol yn nhaith gyfansoddiadol y DU”, yn ôl John Swinney.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban na ddylai fod “unrhyw rwystr” i bobl y tair gwlad ddatganoledig allu “penderfynu ar eu dyfodol eu hunain”.
Ychwanegodd arweinydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, bod llofnodi y memorandwm yn “hanesyddol”.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd, dywedodd Ms McDonald: “Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn or-ddweud i ddweud bod y cyfarfod hwn heddiw a llofnodi’r memorandwm hwn yn hanesyddol.
“Dyma’r foment pan rydyn ni’n datgan gyda’n gilydd ein hawl i benderfynu ar ein dyfodol, hawl na ellir ei chymryd oddi arnon ni.”
Wrth siarad cyn y drafodaeth, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Ar draws yr ynysoedd hyn, rydym yn gweld tirwedd wleidyddol newydd yn dod i'r amlwg, gyda chydnabyddiaeth gynyddol nad yw model San Steffan yn gweithio mwyach.
"Mae gan ein pleidiau lawer i'w ennill o weithio gyda'i gilydd, fel partneriaid cyfartal, lle rydyn ni'n rhannu buddiannau cyffredin a lle gall cydweithredu wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli.
“Edrychaf ymlaen at gryfhau'r berthynas rhwng ein pleidiau a chymryd cam arall tuag at bartneriaeth newydd rhwng ein cenhedloedd.”
Yr ymateb o San Steffan
Nid oes refferendwm annibyniaeth wedi’i gynnal ers i’r Alban bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, o 55.3% i 44.7%, yn 2014.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham wedi dweud bod refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban “oddi ar y bwrdd”, ar ôl awgrymu y byddai’n agored i’r posibilrwydd pe byddai “consensws clir".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gyflawni newid ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mae'n credu'n gryf yn yr Undeb.
“Mae'r Deyrnas Unedig ar ei gorau pan fydd pobl yn dod ynghyd gyda’n gwerthoedd cyffredin a pharodrwydd i ddatrys problemau, yn hytrach na chreu rhaniadau.
“Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i deuluoedd, gan gynnwys lleddfu pwysau ar gyllid cartrefi a darparu mwy o ddiogelwch economaidd, yn hytrach na chymryd rhan mewn dadleuon cyfansoddiadol neu refferenda pellach.
“Mae dull y Prif Weinidog o weithio gyda'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn seiliedig ar bartneriaeth a chydweithio, gan ganolbwyntio ar gyflawni twf a swyddi da i bobl ar draws pob rhan o'n gwlad.”
Llun: PA
