Etholiad y Senedd '26: Disgwyl y canlyniadau wrth i'r cyfri' ddechrau

Bangor Conwy Mon

Map Canlyniadau

Llwytho...

Dosbarthiad Seddau

Llwytho...

Y diweddaraf:

  • Caeodd y gorsafoedd pleidleisio am 22.00 nos Iau, ac mae disgwyl i’r cyfrif ddechrau fore dydd Gwener
  • Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf tua 14.00 a’r olaf tua 17.30 - ond fe allai fynd yn hwyrach na hynny hefyd
  • Mae yna ansicrwydd mawr am y canlyniad, gyda’r arolygon barn yn awgrymu y gallai Plaid Cymru neu Reform fod y blaid fwyaf yn y Senedd
  • Am y tro cyntaf, fe fydd 96 o Aelodau o’r Senedd yn cael eu hethol, yn hytrach na’r 60 blaenorol
  • Fe fydd 16 o etholaethau yn cyhoeddi eu canlyniadau yn ystod y dydd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod

Canlyniadau'r Etholiad

Crynodeb

Ffrwd byw

Mae ein rhaglen ganlyniadau bellach yn fyw ar YouTube

Dilynwch ein rhaglen ganlyniadau ar YouTube drwy gydol y dydd.

Vaughan Roderick: 'Diwrnod hanesyddol'

Pum rhif sy’n egluro’r etholiad

Dyma rai o’r rhifau sy’n esbonio etholiad y Senedd eleni:

96 – nifer yr Aelodau a fydd yn cael eu hethol i’r Senedd eleni, cynnydd ar y 60 a oedd yno cyn hyn

16 – nifer yr etholaethau yng Nghymru yn yr etholiad eleni. Roedd 40 o etholaethau yn 2021, gyda 20 o aelodau ychwanegol yn cael eu hethol drwy’r pum rhestr ranbarthol

6 – nifer yr Aelodau sy’n cael eu hethol ym mhob etholaeth drwy system gyfrannol

1 – nifer y pleidleisiau sydd gan bawb. Roedd dwy bleidlais gan bawb yn 2021, un yn yr etholaeth ac un ar y rhestrau rhanbarthol

49 – nifer y seddi sydd eu hangen ar blaid i gael mwyafrif yn y Senedd a gallu llywodraethu ar ei phen ei hun. Does dim disgwyl ar hyn o bryd i’r un blaid gyrraedd y ffigwr hwnnw heddiw.

Dilynwch ganlyniadau etholiad Senedd Cymru ar draws platfformau Newyddion S4C

Beth yw’r sïon diweddaraf?

Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae sïon wedi bod yn drwch drwy gydol y bore bod y Blaid Lafur yn wynebu brwydr i ennill sedd yng Nghasnewydd Islwyn a Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Byddai hynny yn ganlyniad trychinebus i Lafur wedi i’r arolygon barn awgrymu eu bod nhw am ennill o leiaf un o’r chwe sedd yn y ddwy etholaeth yn weddol gyfforddus.

Os yw’n gywir, fe allai awgrymu eu bod nhw’n wynebu talcen caled ar draws gweddill Cymru.

Y darlun yn Afan Ogwr Rhondda

Image
Y cyfri' yn Afan Ogwr
Y cyfri' yn Afan Ogwr Rhondda

Dafydd Morgan sydd yn y cyfri' yn Afan Ogwr Rhondda.

Yma yng Nghastell Nedd ma’r gwaith gwirio wedi dechrau ar gyfer etholaeth Afan Ogwr Rhondda. Mae ‘na deimlad ymlaciedig gan ymgyrchwyr ac ymgesiwyr y pleidiau yma hyd yn hyn. 

Mae’n ddyddiau cynnar yn y broses o gyfri wrth gwrs. Yn ô y Swyddog Canlyniadau fe fydd gyda ni syniad o faint o bobol sydd wedi pleidleisio tua 12:30 a’r cyfri go iawn yn dechrau ar ol hynny.

Mae’r etholaeth yma yn ymestyn o Bort Talbot i ben ucha’r Rhondda – ardal ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Yn un o gadarnleoedd y blaid Lafur sydd wedi dal grym ers dros ganrif. 

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies yma yn ceisio am sedd. 

Ond y cwestiwn yw i ba raddau ma Llafur yn mynd i golli gafael ar y rhan yma o Gymru. Mae ‘na chwe sedd i’w hennill, a’r arolygon barn diweddara yn awgrymu taw Plaid Cymru a Reform UK fydd yn ennill y rhan helaeth o rheini. A fydd Llafur yn hawlio sedd?

Y cyfri' wedi dechrau yn Bangor Conwy Môn

Beth mae’r arolygon yn ei awgrymu fydd y canlyniad?

Image
Dan Thomas arweinydd Reform yng Nghymru a Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru
Arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas ac arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth

Mae’r arolygon barn wedi awgrymu darlun eithaf cyson ers dechrau’r flwyddyn.

Maen nhw’n dangos Plaid Cymru a Reform yn agos iawn at ei gilydd, gyda’r ddwy blaid yn aml o gwmpas 25–33% o’r bleidlais.

Roedd Plaid Cymru ar y blaen o drwch blewyn yn yr arolygon barn a gyhoeddwyd yn ystod wythnos olaf yr ymgyrchu.

Mae’r arolygon hefyd wedi awgrymu yn weddol gyson bod Llafur yn y trydydd safle, ond mae pa mor bell y mae’r blaid ar ei hôl hi wedi amrywio cryn dipyn.

Mae rhai arolygon barn, gan gynnwys rhai gan More in Common, wedi rhoi Llafur yn nes at 20%, tra bod rhai llai caredig, fel YouGov, wedi awgrymu bod y blaid mor isel â 12–13%.

Mae’r Blaid Werdd a’r Ceidwadwyr wedi bod ar tua 10% o’r bleidlais, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar tua 6%.

Mae’n bosib, wrth gwrs, bod yr arolygon barn yn anghywir.

Mae hon yn system bleidleisio newydd, gydag etholaethau newydd, ac felly mae’n anodd hefyd rhagweld sut y bydd pleidleisiau yn troi’n seddi yn y Senedd.

Pryd mae disgwyl i’r canlyniadau ein cyrraedd ni?

Image
Y cyfri' yn Bangor Conwy Môn
Y cyfri' yn Bangor Conwy Môn

Bydd y cyfri yn dechrau bore Gwener, ac mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.

Oherwydd ei fod yn system bleidleisio newydd mae mwy o ansicrwydd nag arfer ynglŷn â phryd fydd y canlyniadau llawn yn cael eu cyhoeddi.

Brasamcanion yw’r amseroedd isod i gyd. Gallan nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth wirio a chyfrif pleidleisiau, gan lefel y nifer a bleidleisiodd, neu gan yr angen i ail-gyfri pleidleisiau os yw’r canlyniadau’n agos.

Mae’r holl amseroedd yn cyfeirio at brynhawn ddydd Gwener:

  • Casnewydd Islwyn - 14:00
  • Gŵyr Abertawe - 14:00
  • Sir Fynwy Torfaen - 14:00
  • Bangor Conwy Môn - 15:00
  • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 15:00
  • Brycheiniog Tawe Nedd - 15:00
  • Caerdydd Ffynnon Taf - 15:00
  • Caerdydd Penarth - 15:00
  • Ceredigion Penfro - 15:00
  • Clwyd - 15:00
  • Pen-y-Bont Bro Morgannwg 15:00
  • Afan Ogwr Rhondda - 15:30
  • Gwynedd Maldwyn - 15:30
  • Pontypridd Cynon Merthyr - 16:00
  • Sir Gaerfyrddin - 16:00
  • Fflint Wrecsam - 17:30

Ymateb Plaid Cymru wrth i’r blychau pleidleisio gau

Image
Rhun ap Iorwerth
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth a'i deulu

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nos Iau: “Wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau ledled Cymru heno, mae Plaid Cymru yn diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y foment bwysig hon i’n democratiaeth ac i ddyfodol ein cenedl.

“Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth ac wedi’u gyrru gan awydd am ddewis arall cadarnhaol i anhrefn Reform UK a’u hymgais i rannu ein cymunedau.

“Mae pobl Cymru bellach wedi pleidleisio, ac rydym yn edrych ymlaen at y canlyniadau ddydd Gwener gyda gobaith am y dyfodol cadarnhaol y mae Cymru’n ei haeddu.”

Y dilysu yn Llandysul ar gyfer sedd Ceredigion Penfro

Image
Y cyfri' yn Llandysul
Y cyfri' yn Llandysul

Mae'r dilysu pleidleisiau wedi dechrau yn Ysgol Bro Teifi Llandysul ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro.

Dyma'r sedd lle mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan o'r Blaid Lafur yn sefyll., a hefyd y Llywydd, Elin Jones o Blaid Cymru. Pwy fydd yn gwenu yma ar ddiwedd y noson?

Faint fydd wedi pleidleisio eleni?

Image
Y cyfri yng Nghaerffili
Y cyfri yng Nghaerffili ym mis Hydref

Mae'r canrannau cyntaf o ran faint sydd wedi pleidleisio wedi eu cyhoeddi:

  • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni: 47.7%
  • Casnewydd Islwyn: 47.8%

Roedd rywfaint o obaith, gan fod y ras wedi bod mor agos eleni, y byddai mwy o bobl yn cymryd diddordeb ac yn bwrw pleidlais.

Nid yw’r ganran a bleidleisiodd erioed wedi cyrraedd 50% na mwy. Roedd y ffigwr ar ei uchaf yn 2021, gyda 46.6% yn bwrw pleidlais, ac ar ei isaf yn 2003, gyda dim ond 38.2% yn dewis gwneud hynny.

Fe bleidleisiodd 50.43% yn is-etholiad Caerffili ym mis Hydref, gan awgrymu y gallai’r ffigwr fod yn uwch na’r arfer eleni.

Mae’n anodd gwybod pwy fyddai’n cael budd o ganran uwch yn pleidleisio, wrth gwrs.

Fe allai awgrymu bod Reform wedi dod o hyd i bleidleiswyr newydd i’w cefnogi.

Ond fe allai hefyd awgrymu bod pleidleiswyr wedi dod allan er mwyn “stopio Reform”, fel y mae rhai o bleidiau’r chwith wedi bod yn eu hannog nhw i wneud.

Bydd hefyd yn ddiddorol gweld faint o’r bobol ifanc 16 ac 17 oed fydd wedi pleidleisio. Dyma’r ail etholiad Senedd iddyn nhw allu gwneud hynny.

Ymateb y Blaid Lafur wrth i’r blychau pleidleisio gau

Image
Eluned Morgan
Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan

Cadeirydd Ymgyrch Llafur Cymru, Huw Irranca-Davies, nid y Prif Weinidog Eluned Morgan wnaeth ymateb wedi i'r ymgyrch ddod i ben nos Iau.

Dywedodd bod yr ymgyrch wedi bod yn un “anodd” i’r blaid, a hynny “dan amgylchiadau heriol”.

“Ar ôl llawer o flynyddoedd mewn llywodraeth yng Nghymru, a chyda Llafur nawr yn llywodraethu ar draws y DU, roedd wastad mynd i fod ymdeimlad cryf o rwystredigaeth a newid. Mae’r pwysau costau byw parhaus y mae pobl yn eu teimlo yn wirioneddol ac yn cael eu teimlo’n ddwfn.

“Drwy gydol yr ymgyrch, mae Eluned Morgan wedi dangos arweinyddiaeth bositif, egnïol a phenderfynol yn ystod cyfnod anodd iawn. Fe wnaeth hi ymgymryd â’r her yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf i Lafur Cymru ei wynebu erioed, gan arwain â dygnwch, chynhesrwydd a ffocws.”

Sut a lle mae modd dilyn arlwy Newyddion S4C?

Image
Newyddion S4C ar YouTube
Newyddion S4C ar YouTube

Fe fydd yna wledd o gynnwys ar eich cyfer chi yma drwy gydol y dydd, ar draws ystod o lwyfannau.

Fe fydd darllediad byw o holl arlwy sianel S4C ar gael i’w wylio ar ein tudalen YouTube.

Bydd modd hefyd dilyn y canlyniadau a pigion o’r trafod a’r dadansoddi ar draws Facebook, Instagram, X a TikTok.

Fe allwch chi hefyd wrth gwrs aros yma ar hafan Newyddion S4C a darllen y diweddaraf o’r dadansoddiad, dilyn y map uchod wrth i’r canlyniadau ein cyrraedd ni, a hefyd gwylio pigion o gynnwys fideo ein gwasanaeth o bobman arall.

Croeso i flog byw Etholiad y Senedd 2026

Image
Blwch pleidleisio
Llun gan PA

Bore da a chroeso i flog byw Etholiad y Senedd, wrth i ni ddechrau’r hyn sy’n siŵr o fod yn ddiwrnod mawr yn hanes gwleidyddol Cymru.

Ym mhob un o’r etholiadau eraill i’r Senedd ers chwarter canrif, rydyn ni wedi gwybod ymlaen llaw pwy oedd y ffefryn clir i ennill, sef y Blaid Lafur.

Am y tro cyntaf yn hanes datganoli, mae yna ansicrwydd go iawn am y canlyniad, gyda’r arolygon barn yn awgrymu y gallai Reform neu Blaid Cymru fod y blaid fwyaf yn y Senedd.

Mae yna ansicrwydd hefyd ynghylch beth fydd y canlyniad i’r blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru gyhyd, sef y Blaid Lafur.

A yw’r blaid honno yn wynebu chwalfa, dod yn drydydd agos – neu a fydd yna sioc wrth iddi wneud yn well na’r disgwyl?

I gael gwybod yr atebion i’r holl gwestiynau hyn, gobeithio y byddwch chi’n ein dilyn ni am yr oriau nesaf!

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.