Mae'r niferoedd sydd o dan amheuaeth o fod wedi marw o'r clefyd Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, yn Affrica wedi bron â dyblu ers dydd Sadwrn.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae 500 o achosion, a mwy na 130 o farwolaethau bellach.
Mae Cyfarwyddwr-Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd Tedros Adhanom Ghebreyesus wedi dweud fod Ebola yn lledaenu ar raddfa gyflym a bod hynny y tu hwnt o bryderus.
Ar ôl cynnal cyfarfod brys nos Lun, mae Arlywydd Gweriniaeth Ddemocratiadd y Congo, Félix Tshisekedi wedi galw ar bobol i barhau i fod ar eu gwyliadwraeth.
Mae pryderon fod y straen hwn o'r feirws sef Bundibugyo, wedi dechrau ymledu rai wythnosau cyn iddo gael ei ddarganfod gyntaf ar 24 Ebrill.
Does dim brechlyn ar gyfer y straen hwn o'r feirws ond mae Sefydliad Iechyd y Byd wrthi'n asesu a allai cyffuriau eraill fod o gymorth.
Yn ôl Cyfarwyddwr-Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, mae 30 o achosion wedi eu cadarnhau yn nhalaith Ituri yn ngogledd-ddwyrain Gweriniaeth Ddemnocrataidd y Congo.
Mae Uganda wedi nodi wrth y sefydliad fod dau achos yn eu prifddinas Kampala, yn cynnwys un farwolaeth. Roedd y ddau unigolyn wedi teithio yno o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Ac mae'r Almaen yn paratoi i drin meddyg o America sydd wedi datblygu Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocratiadd y Congo, yn ôl yr adran iechyd yno.
Mae e ymhlith saith o Americanwyr sy'n cael eu hanfon yno i'w hasesu.