Carchar am 25 mlynedd i ddyn o ardal Abertawe am dreisio dwy ferch

Mugshot

Mae dyn 57 oed o Lansamlet, ger Abertawe wedi ei garcharu am 25 mlynedd ar ôl i lys ei gael yn euog o dreisio dwy ferch o dan 16 oed, flynyddoedd yn ôl. 

Clywodd y gwrandawiad i David Lake ymosod droeon ar y merched, sydd bellach yn oedolion.     

Fis Ebrill, dyfarnodd y rheithgor fod Lake yn euog o un achos o dreisio merch o dan 16 oed, pedwar achos o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 14 oed, un achos o gael cyfathrach rywiol anghyfreithlon gyda merch o dan 13 oed, ac un achos o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 oed. 

Wrth gael ei ddedfrydu i chwarter canrif o dan glo, cafodd Lake wybod y bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sioned Davies: “Cymrodd ddewrder a chryfder eithriadol i ddioddefwyr David Lake ymddiried yn rhywun arall a sôn am y troseddau yr oedd wedi eu cyflawni, yn enwedig gyda chynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio. 

“Roedd hwn yn yn ymchwiliad hir a chymhleth, sydd bellach wedi arwain at gyfiawnder, ac mae hyd y ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb troseddau David Lake  

“Fe barhaodd ymosodiadau David Lake tan iddo fynd i garchar ar fater arall ar wahân. Gyda'r ddedfryd hon, rydym yn gobeithio bod eu droseddu wedi ei atal am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.