Gwynedd: Cabinet y Cyngor Sir yn cefnogi camau i gau dwy ysgol wledig yn ardal Dyffryn Nantlle

Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg. Cyngor Gwynedd
Llun o Ysgol Nebo a Ysgol Baladeulyn

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cefnogi cam nesaf y broses i gau dwy ysgol gynradd wledig yn ardal Dyffryn Nantlle.

Mewn cyfarfod o’r Cabinet ddydd Mawrth, 19 Mai, fe bleidleisiodd aelodau’n unfrydol o blaid cyhoeddi hysbysiadau statudol ar gynigion i gau Ysgol Nebo, ger Llanllyfni, ac Ysgol Baladeulyn yn Nantlle.

Yn achos y ddwy ysgol, roedd 10 aelod o’r Cabinet o blaid, neb yn erbyn a neb yn ymatal.

Mae’r penderfyniadau yn golygu y bydd cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod yn dechrau, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ar ddyfodol y ddwy ysgol.

O dan y cynigion, byddai Ysgol Nebo yn cau ar 31 Rhagfyr 2026, gyda disgyblion yn cael lle yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen.

Byddai Ysgol Baladeulyn yn cau ar yr un dyddiad, gyda disgyblion yn cael lle yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen.

Yn ôl adroddiadau a oedd wedi'u cyflwyno i’r Cabinet, mae’r ddwy ysgol mewn sefyllfa fregus oherwydd niferoedd isel o ddisgyblion, canran uchel o lefydd yn wag, costau uchel fesul disgybl, a dibyniaeth ar gyllid ychwanegol.

Roedd gan Ysgol Nebo 11 o ddisgyblion Derbyn i Flwyddyn 6 ar y gofrestr yn Ionawr 2026, gyda chapasiti o 51. Mae hynny’n gadael 40 o lefydd yn wag, sef 78% o gapasiti’r ysgol.

Yn achos Ysgol Baladeulyn, roedd chwe disgybl Derbyn i Flwyddyn 6 ar y gofrestr, gyda chapasiti o 55. Mae hyn yn golygu bod 49 lle gwag yn yr ysgol sef 89% o'i chapasiti.

Cafwyd 70 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad ar Ysgol Nebo, a 30 o ymatebion ysgrifenedig yn achos Ysgol Baladeulyn.

Penderfyniad 'anodd iawn’

Wrth gyflwyno’r adroddiadau, dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, fod y penderfyniadau yn rhai “anodd iawn i bawb sy’n ymwneud ag addysg yng Ngwynedd”.

Dywedodd fod nifer y plant yng Ngwynedd wedi gostwng ers 2011, gan ddweud nad oedd y patrwm yn unigryw i Ddyffryn Nantlle nac i Wynedd ond i'w weld drwy Gymru.

Ychwanegodd nad oedd trafod dyfodol ysgolion bach yn golygu nad oedd y Cyngor yn eu gwerthfawrogi, ond bod cynnal ysgol gyda nifer fach iawn o blant yn creu “heriau addysgol ac ariannol”.

Wrth drafod Ysgol Nebo, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Davies, yr aelod lleol dros ward Clynnog, ei bod hi’n “bwysig peidio edrych ar rifau ar daenlen yn unig”.

“Dydy cymuned ddim mor syml â hynny,” meddai.

Ychwanegodd fod Ysgol Nebo yn “cynnig rhywbeth gwahanol” i ysgolion mwy, ac y gallai cau’r ysgol gael effaith ar y Gymraeg yn y gymuned.

Wrth ymateb i’r cynnig ar Ysgol Baladeulyn, dywedodd y Cynghorydd Peter Thomas, yr aelod lleol dros ward Llanllyfni, ei fod yn derbyn nad oedd niferoedd presennol yr ysgol yn gynaliadwy.

Ond dywedodd ei fod wedi gobeithio y byddai’r Cyngor wedi ystyried cadw’r ysgol ar agor drwy ei ffederaleiddio gydag Ysgol Talysarn.

Ychwanegodd y byddai cau’r ysgol yn “ergyd drom” i gymuned Nantlle.

Dywedodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, fod manteision i ffederaleiddio ysgolion mewn rhai achosion.

Ond dywedodd nad oedd ffederaleiddio yn newid yr “heriau sylfaenol” oedd yn wynebu Ysgol Baladeulyn, gan gynnwys nifer isel y disgyblion.

Y cam nesaf fydd cyhoeddi hysbysiadau statudol, a fydd yn agor cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod.

Bydd adroddiad pellach wedyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet cyn penderfyniad terfynol ar ddyfodol y ddwy ysgol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.