‘Pobl Cymru fydd yn penderfynu ar annibyniaeth’ meddai Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth

Pobl Cymru fydd yn penderfynu ar gyflymder taith Cymru tuag at annibyniaeth, meddai Rhun ap Iorwerth.

Dywedodd y Prif Weinidog newydd mai ei swyddogaeth ef oedd arwain sgwrs genedlaethol a “chreu’r hyder yn ein gallu i fod yn wlad annibynnol”.

Daw ei sylwadau wedi i arweinydd yr wrthblaid, Dan Thomas, ddweud bod penderfyniad Rhun ap Iorwerth i godi’r pwnc gyda Phrif Weinidog Llywodraeth y DU, Keir Starmer yn awgrymu nad oedd yn canolbwyntio ar wasanaethau.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod Rhun ap Iorwerth wedi codi’r pwnc yn y sgwrs gyntaf rhwng y ddau brif weinidog a’u bod nhw wedi synnu gan hynny.

“Mae codi annibyniaeth gyda Llywodraeth y DU yn awgrymu bod materion cyfansoddiadol yn tynnu eich sylw,” meddai Dan Thomas, arweinydd plaid Reform UK yng Nghymru.

Dywedodd hefyd: “Mae’r dadleuon cyfansoddiadol yn cyffroi gwleidyddion a sylwebyddion, mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gofyn cwestiynau llawer mwy sylfaenol. 

“A alla i gael apwyntiad gyda meddyg teulu? A fydd fy mhlentyn yn derbyn addysg dda? 

“A ydw i’n gallu fforddio fy miliau? A fydd gan fy nheulu gyfleoedd yng Nghymru ymhen pedair blynedd?”

‘Cyflymder’

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod “wedi crybwyll annibyniaeth” yn y sgwrs gyda Keir Starmer.

“Mae gen i lefel o uchelgais ar gyfer fy nghenedl,” meddai.

“Fe ddywedais i fy mod eisiau arwain sgwrs genedlaethol, gan greu'r hyder hwnnw yn ein gallu, yn ddiamau, i fod yn genedl annibynnol, fel cynifer o wledydd o’n blaenau ni.

“Ac fe ddywedais i hynny wrth y Prif Weinidog, fel rydw i wedi'i ddweud drwy gydol fy amser mewn gwleidyddiaeth, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

“Rydym ni ar daith y bydd yn rhaid i bobl Cymru benderfynu ar ei thrawiad a'i chyflymder yn y pen draw.

“Byddaf yn cynnig arweinyddiaeth, mewn partneriaeth ac yn ceisio cydweithrediad ag aelodau ar draws y Senedd hon, ond bob amser gyda buddiannau pobl Cymru wrth wraidd hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.