Rheithgor yn ystyried dyfarniad yn achos dau sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio Ian Watkins
Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio’r pedoffeil Ian Watkins.
Bu farw cyn brif leisydd y band Lostprophets, o Bontypridd, wedi ymosodiad yn ei gell yng ngharchar diogelwch uchel HMP Wakefield ar 11 Hydref y llynedd.
Mae Llys y Goron Leeds wedi clywed bod Rico Gedel wedi trywanu Watkins deirgwaith â llafn, cyn ei rhoi i Samuel Dodsworth, a’i taflodd mewn bin.
Mae’r carcharorion Gedel, 25, a Dodsworth, 44, yn gwadu llofruddiaeth a bod â chyllell yn eu meddiant yn y carchar.
Cafodd aelodau’r rheithgor eu hanfon allan gan y barnwr Mr Ustus Hilliard amser cinio ddydd Mawrth i ddechrau ystyried eu dyfarniad.
Wrth gloi ei ddadl i’r rheithgor ddydd Llun, dywedodd yr erlynydd Tom Storey KC nad oedd Watkins wedi “gwneud dim byd o gwbl i ysgogi’r ymosodiad hwn yn yr amser cyn iddo ddigwydd”.
Cafodd Ian Watkins ei garcharu am 29 mlynedd ym mis Rhagfyr 2013, gyda chwe blynedd arall ar drwydded, ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ceisio treisio babi.
“Waeth pa mor ffiaidd oedd ei droseddau, nid oedd hynny’n cyfiawnhau ei ladd mewn unrhyw ffordd,” meddai'r erlynydd.
Wrth roi ei gyfarwyddiadau cyfreithiol i’r rheithgor yn gynharach, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Hilliard, fod Watkins “wedi cyflawni troseddau difrifol iawn, ond mae’n amlwg na ddylai fod wedi colli ei fywyd yn y carchar”.
“Ni all unrhyw gydymdeimlad sydd gennych am yr amgylchiadau hynny chwarae unrhyw ran yn eich trafodaethau,” meddai wrth y rheithgor.
Dywedodd y barnwr na ddylai’r rheithgor benderfynu’r achos ar sail “cydymdeimlad neu anghymeradwyaeth y naill ffordd neu’r llall”, ac na ddylen nhw ychwaith “bryderu am ganlyniadau unrhyw reithfarn benodol”.
Dywedodd wrthyn nhw y dylen nhw gynnal “archwiliad pwyllog, tawel, gofalus a diduedd o’r dystiolaeth yn yr achos”.