Gŵyl Fwyd Caernarfon i ddychwelyd yn 2027
Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi cadarnhau y bydd yr ŵyl yn dychwelyd yn 2027.
Ar ôl cyhoeddi'r llynedd y byddai’n cymryd seibiant yn 2026, daeth datganiad gan drefnwyr yr ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun y byddai’n cael ei chynnal ar 8 Mai 2027.
Dywedodd trefnwyr y byddai’n derbyn ceisiadau gan fasnachwyr ar gyfer yr ŵyl “yn fuan.”
Fe ddaeth tua 40,000 o bobl i ymweld â’r ŵyl yng Nghaernarfon yn 2024 ac yn 2025.
Dywedodd y trefnwyr ei fod yn benderfyniad “anodd ond angenrheidiol” i beidio ei chynnal yn 2026, yn sgil yr ŵyl “fwyaf llwyddiannus eto” yn 2025.
Ers i’r ŵyl ddechrau ym mis Mai 2016, mae wedi bod y rhad ac am ddim i bawb fynychu.
“Mae’n anodd cyfleu cost ddynol trefnu gŵyl ar y raddfa hon,” meddai'r trefnwyr ar y pryd.
“Rydan ni fel gwirfoddolwyr wedi rhoi oriau diddiwedd o'n hamser, ein hegni, a’n hangerdd i wneud pob gŵyl yn llwyddiant.
“Fodd bynnag, mae rhai gwirfoddolwyr allweddol angen camu o’r neilltu yn y flwyddyn i ddod, ac rydym yn cydnabod bod y model presennol yn gosod baich anghynaladwy ar y rhai sy'n aros.” meddai llefarydd yr ŵyl ar y pryd.