Awgrymiadau bod Pep Guardiola am adael Manchester City ar ddiwedd y tymor
Mae disgwyl i Pep Guardiola adael Manchester City ar ddiwedd y tymor yn ôl sawl adroddiad.
Mae’r rheolwr, sydd wedi bod wrth y llyw yn Stadiwm Etihad ers 2016, wedi cael un o’r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Lloegr.
Er bod gan Guardiola gytundeb ar gyfer y tymor nesaf, mae adroddiadau’n awgrymu bod paratoadau eisoes ar y gweill y tu mewn i’r clwb ar gyfer ei ymadawiad posib.
Mae disgwyl y bydd yn gadael ar ôl gêm olaf y tymor yn erbyn Aston Villa ddydd Sul, 24 Mai.
Mae Enzo Maresca, rheolwr Chelsea a chyn aelod o staff hyfforddi Pep Guardiola yn Manchester City, ymhlith y ffefrynnau i fod yn rheolwr nesaf y clwb.
Mae Guardiola wedi ennill 17 o brif dlysau yn ystod ei gyfnod gyda City, gan gynnwys chwe theitl yr Uwch Gynghrair, Cynghrair y Pencampwyr, tair Cwpan FA a phum Cwpan EFL.
Yn ystod ei gyfnod, City oedd y tîm cyntaf i ennill teitl cynghrair Lloegr bedair gwaith yn olynol, ac fe wnaethon nhw ennill y trebl yn 2023.
Mewn cyfweliad gyda BBC Sport cyn rownd derfynol Cwpan FA mis yma, dywedodd Guardiola ei fod yn disgwyl aros gyda’r clwb y tymor nesaf.
“Dw i yma, mae gen i gytundeb,” meddai.
Mae adroddiadau hefyd yn awgrymu bod Manchester City yn ystyried enwi’r North Stand sydd newydd gael ei ehangu ar ôl Guardiola.
Wrth gael ei holi am hynny mewn cyfweliad gyda BBC Sport, dywedodd Guardiola nad oedd ganddo “ddim syniad” am y peth.