Môn: Datblygwyr yn tynnu cais fferm solar fwyaf y DU yn ôl

Fferm Solar Maen Hir

Mae cynllun i adeiladu fferm solar fwyaf y Deyrnas Unedig ar Ynys Môn wedi'i dynnu’n ôl gan ddatblygwyr.

Er hynny mae’r cwmni'n dweud bod eu hymrwymiad i’r prosiect yn parhau.

Roedd cwmni Lightsource BP eisiau caniatâd i ddatblygu ffermydd o baneli solar ar 1,284 hectar o dir mewn tri lleoliad yng ngogledd yr Ynys; ar dir ger Rhosgoch a Bodewryd, ar dir i’r gogledd ddwyrain o Lyn Alaw, ac ar dir ger Llannerchymedd.

Byddai’r datblygiad wedi bod yn fwy nag unrhyw fferm solar yn y DU ar hyn o bryd, gyda’r gallu i bweru hyd at 140,000 o gartrefi drwy gynhyrchu dros 350 megawat o drydan.

Oherwydd ei faint, roedd y cais dan ystyriaeth gan Arolygiaeth Cynllunio’r Deyrnas Unedig fel Prosiect o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Ond mewn llythyr i’r Arolygiaeth y mis hwn, dywedodd y cwmni y byddai’n tynnu’r Prosiect yn ôl o’r cam cyn ymgeisio.

Dywedodd David Bell o gwmni cynllunio LDA Design, ar ran Lightsource BP bod y cais wedi ei dynnu yn ôl ar gyfer 'diwydrwydd dyladwy' (due diligence). 

“Mae'r Ymgeisydd yn parhau i fod wedi ymrwymo i Brosiect Maen Hir a'i gyfraniad at gyflawni ymrwymiadau Net Sero Llywodraethau'r DU a Chymru trwy ddatblygu cynllun a fydd yn cyflawni gwelliannau amgylcheddol, tirwedd a bioamrywiaeth ystyrlon yn ogystal â manteision i'r gymuned leol.

“Mae tynnu'n ôl o'r cam cyn-ymgeisio yn caniatáu amser i gwblhau diwydrwydd dyladwy pellach cyn gwneud penderfyniad ar y ffordd orau o symud y prosiect ymlaen o fewn y system gynllunio," meddai. 

Mae’r cais yn un o ddau sydd wedi hollti barn trigolion yr ynys, gyda chwmni Enso Energy hefyd yn ceisio datblygu fferm solar dros 660 erw o dir ger Llyn Alaw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.