Honiadau bod menywod wedi'u treisio gan eu partneriaid ar gyfres Married at First Sight UK

Channel 4

Mae dwy fenyw oedd yn rhan o’r gyfres deledu Married at First Sight UK yn honni eu bod wedi cael eu treisio yn ystod ffilmio’r gyfres.

Mae trydedd menyw oedd yn rhan o’r gyfres Channel 4 boblogaidd hefyd yn honni iddi fod yn rhan o weithred rywiol heb ei chaniatâd.

Mae’r tair wedi dweud wrth gyfres Panorama y BBC na wnaeth y rhaglen ddigon i’w diogelu.

Fe ddywedodd Channel 4 ar y dechrau eu bod yn ymwybodol o rhai o’r honiadau cyn i’r rhaglenni gael eu darlledu ac roedd y rhaglenni oedd yn cynnwys y merched ar gael i'w gwylio am gyfnod ar y gwasanaeth ffrydio.

Ond ddydd Llun, cafodd y rhaglenni eu dileu oddi ar wasanaethau ffrydio a theledu Channel 4, yn ogystal ag oddi ar blatfformau digidol y gyfres.

Dywedodd Channel 4 eu bod wedi comisiynu adolygiad allanol i fesurau diogelu’r gyfres ar ôl “derbyn honiadau difrifol o gamymddwyn.”

Mae cyfreithwyr ar ran y cwmni sy’n cynhyrchu’r rhaglen, CPL, yn dweud bod system diogelu’r rhaglen o’r safon uchaf a’u bod wedi gweithredu’n briodol mewn pob achos.

Y gyfres

Yn y gyfres, mae unigolion yn priodi person sy’n ddieithr iddyn nhw ar ôl cwrdd â’i gilydd am y tro cyntaf mewn seremoni briodas ffug.

Yna mae’r camerâu yn eu dilyn wrth iddyn nhw fynd ar fis mel a cheisio adeiladu perthynas yn ôl adref.

Mae’r tair menyw sydd wedi siarad gyda Panorama wedi gwneud honiadau yn erbyn eu gwŷr ar y rhaglen.

Dywedodd un fenyw bod ei gŵr yn y gyfres wedi ei threisio a bygwth ymosod arni hi gydag asid. Mae hi eisiau cymryd camau cyfreithiol yn erbyn CPL.

Dywedodd ail fenyw ei bod wedi dweud wrth Channel 4 a CPL cyn darlledu'r rhaglenni, ei bod wedi cael ei threisio gan ei gŵr yn y gyfres. Er hynny, cafodd y rhaglenni dal eu darlledu.

Mae trydedd menyw wedi cyhuddo ei gŵr yn y gyfres o gamymddygiad rhywiol.

Mae'r dynion sydd wedi eu cyhuddo yn herio'r honiadau yn eu herbyn.

Yn ol Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU mae'r honiadau yn "ddifrifol" ac mae'n rhaid gweithredu yn erbyn unrhyw "drosedd neu gamymddwyn".

Mae cwmni gwyliau Tui wedi dweud eu bod yn rhoi'r gorau i noddi'r sioe dros dro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.