Ffliw ceffylau: Pryder am yr effaith ar sioeau amaethyddol

Ffliw ceffylau: Pryder am yr effaith ar sioeau amaethyddol

Mae yna bryder cynyddol am effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol yr haf yn sgil cynnydd sylweddol mewn achosion.

Dros y penwythnos, fe gadarnhaodd Sioe Amaethyddol Pontargothi yn Sir Gaerfyrddin na fydd adran geffylau yn cael ei chynnal yn y sioe, ddiwedd mis Mai.

Mae dros 68 achos wedi cael eu cadarnhau o'r clefyd ar draws dros 33 sir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ers 1 Ebrill 2026 yn ôl Tim Gwyliadwraeth Clefydau Heintus Ceffylau.

Mae ffliw ceffylau yn afiechyd heintus sydd yn lledu yn gyflym iawn ymhlith ceffylau. Mae yna bigiad yn erbyn y salwch, ond mae ceffylau sydd wedi cael eu brechu yn medru trosglwyddo'r afiechyd i'r rhai sydd heb gael pigiad.

Er nad yw fel arfer yn salwch angheuol, mae'n achosi twymyn, peswch a llesgedd i geffylau sydd yn dioddef.

'Ymledu'n glou'

Yn ôl Matthew Jones, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Pontargothi, roedd yna leihad mawr yn nifer y ceisiadau eleni oherwydd pryder ymhlith perchnogion ceffylau.

"Mae lot o drafod wedi bod ers wythnosau bellach ond nos Wener diwethaf fe wnaethon ni benderfynu tynnu'r plwg ar yr adran geffylau eleni oherwydd doedd dim lot o bobl wedi entro oherwydd y ffliw a hefyd roedd e'n ymledu go glou yn yr ardal," meddai wrth Newyddion S4C.

"Y peth gorau i ni wneud oedd i stopio fe cyn iddo ymledu ymhellach. Roedden ni lawr tua 85% ar rifau y llynedd. Ni'n aml yn cael dros 300 o geffylau 'ma ar ddiwrnod Sioe a hyd yn hyn, dim ond cyrraedd 50 wnaethon ni."

Image
Dywedodd Matthew Jones mai gohirio oedd y peth gorau i wneud er mwyn "atal lledaeniad" ffliw ceffylau
Dywedodd Matthew Jones mai gohirio oedd y peth gorau i wneud er mwyn "atal lledaeniad" ffliw ceffylau

Roedd milfeddygon sydd yn cynghori'r pwyllgor, wedi awgrymu na fyddai'n ddoeth i gynnal cystadlaethau i geffylau eleni.

"Ni'n lwcus iawn i gael milfeddygon yn rhan o'r sioe fan hyn. Roedd lot o achosion a hefyd lot o achosion yn mynd heb eu riportio. 

"Eu barn nhw oedd cael bennu gyda adran y ceffylau eleni. Mae fe'n gallu bod yn yr awyr am filltir a hanner felly mae risg i geffylau sydd yn byw yn yr ardal a heb fynychu'r sioe. 

"Mae llawer o bobl wedi cysylltu i ddiolch i ni am ganslo."

Fe fydd y sioe, serch hynny, yn mynd yn ei blaen "fel arfer" yn ôl Matthew gyda dosbarthiadau i wartheg, defaid, alpacas a geifr.

 Mae gan y cyflwynydd a'r gantores, Shân Cothi, dri cheffyl, ac mae dau o'r ceffylau yn cael eu cadw ar iard yn Sir Gaerfyrddin.

"Mae'r iardiau i gyd nawr, lot ohonyn nhw yn yr ardal ac yn ne Cymru, wedi eu cau lawr," meddai.

"Does yna ddim digwyddiadau a dim symudiad ceffylau. Hwnna yw'r unig ffordd i leihau y risg o'r haint yma yn cydio. 

"Chi ddim eisiau fe. Chi ddim eisiau eich ceffyl i gael y ffliw neu strangles ac mae un ffurf arall sydd yn fwy niwrolegol. Y peth yw mae'n mynd i effeithio ar y digwyddiadau a thymor y sioeau. 

"S'dim bob ceffyl wedi cael y pigiad, yn enwedig y rhai mewn llaw, efallai. Mae'r ceffylau i gyd yn cario yr haint ond mae rhai sydd yn cael y pigiad ddim yn datblygu'r symptomau mor wael. Os wnewn ni rhywbeth nawr mae yna rywfaint o obaith y bydd tymor y sioeau ar ôl."

Sioe Fawr 

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Aled Jones, y bydd yr "adran geffylau yn cael ei chynnal yn ôl yr arfer."

"Ers 2019, mae hi'n angenrheidiol i bob ceffyl sydd yn dod i'r Sioe gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau. Fe fyddwn ni yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus a chefnogi cystadleuwyr sydd yn arddangos ceffylau wrth baratoi ar gyfer y sioe ym mis Gorffennaf."

Y cyngor i atal lledaeniad ffliw ceffylau yw :

- sicrhau bod brechiadau'n gyfredol

- monitro ar gyfer arwyddion clinigol cynnar fel peswch, hylif o'r trwyn, twymyn a llesgedd

- gweithredu mesurau bioddiogelwch llym

- ynysu ceffylau sydd newydd gyrraedd a rhai sydd o amheuaeth o fod â'r ffliw,  yn brydlon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn achosion.

"Rydym yn ymwybodol o'r cynnydd mewn achosion o ffliw ceffylau. Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd a chysylltu â'u milfeddyg os oes ganddynt bryderon. 

"Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Awdurdodau Lleol yn gwneud penderfyniadau am iechyd a lles anifeiliaid yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael. Os ydynt yn credu bod digwyddiad yn peri risg rhy uchel, gallant ddewis peidio â rhoi trwydded.

 "Brechu yw'r ffordd bwysicaf o leihau risg ac effaith ffliw ceffylau. Mae bioddiogelwch a hylendid da yn allweddol i atal ei gyflwyno a'i ledaenu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.