Ysgrifennydd Cymru yn cynnal yr alwad ffôn gyntaf â Phrif Weinidog Cymru
Cyhoeddodd Swyddfa Cymru fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens wedi cynnal ei galwad ffôn gyntaf gyda Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog newydd Cymru yn gynharach ddydd Llun.
Yn ôl y swyddfa, fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, sy'n aelod yng nghabinet Llywodraeth Lafur y DU longyfarch Rhun ap Iorwerth ar ganlyniadau Plaid Cymru yn etholiad diweddar y Senedd, gan amlinellu "pwysigrwydd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cydweithio’n adeiladol ar faterion a blaenoriaethau cyffredin."
Ychwanegodd Swyddfa Cymru fod Ysgrifennydd Cymru wedi egluro "budd Llywodraethau’r DU a Chymru yn cydweithio ar flaenoriaethau cyffredin ynghylch cost byw a thlodi yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus a thwf economaidd, gan gynnwys darparu seilwaith ynni glân yng Nghymru."
"Ailadroddodd Ysgrifennydd Cymru hefyd bwysigrwydd cydweithio rhwng llywodraethau ar gynhyrchu dur Cymru a’r cyfnod pontio ym Mhort Talbot, cronfeydd twf, ac amddiffyn a diogelwch cenedlaethol," medai'r llefarydd.
Mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi ei fod yn falch o siarad gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru fore Llun.
"Eglurais y bydd Llywodraeth Cymru, o dan fy arweinyddiaeth i, yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar faterion fel costau byw, tra hefyd yn pwysleisio'r angen i barchu democratiaeth Cymru," meddai.
Cafodd y sgwrs ddydd Llun ei chynnal, bedwar diwrnod wedi i Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth sgwrsio â Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer.
Cafodd Mr ap Iorwerth ei longyfarch gan Brif Weinidog y DU ar ei benodiad .
Cyfarfod wyneb yn wyneb
Y bwriad yw trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb fis Mehefin i drafod materion a blaenoriaethau cyffredin.
Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi cynnig cyfarfod â phob un o arweinwyr y llywodraethau datganoledig bryd hynny, ar ôl cadarnhau y byddai’n "agored" i drafod datganoli rhagor o bwerau i Senedd Cymru.
Mewn datganiad yn dilyn yr alwad ddydd Iau, dywedodd swyddfa Prif Weinidog Cymru: "Fe wnaeth Prif Weinidog y DU longyfarch Prif Weinidog Cymru ar ei benodiad, gan nodi ei fod yn awyddus i sefydlu dulliau o gydweithio ar sail buddiannau cyffredin.
"Fe ymatebodd Prif Weinidog Cymru drwy ddweud ei fod yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas adeiladol rhwng ei Lywodraeth, a Llywodraeth y DU.
"Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ei wneud yn glir y bydd yn dymuno trafod y fformiwla Barnett, cyllid teg, pwerau benthyca, rheilffyrdd a rhagor o ddatganoli.
"Fe nododd Prif Weinidog Cymru fod mwyafrif yn y Senedd, gan gynnwys y grŵp Llafur, o blaid pwerau estynedig.
"Fe gadarnhaodd Prif Weinidog y DU y byddai’n agored i sgwrs am bwerau sy’n ymwneud â datganoli, gan gynnig cyfarfod wyneb yn wyneb ym mis Mehefin gyda phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon i drafod materion perthnasol."
Dywedodd y datganiad hefyd fod Prif Weinidog Cymru wedi gofyn am gydweithrediad gan Syr Keir "ar effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar gostau byw".
Cafodd Mr ap Iorwerth hefyd alwadau ffôn ddydd Iau gyda Phrif Weinidog yr Alban, John Swinney, a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O’Neill.