Miliynau o bunnoedd o gymorth i bobl hŷn heb ei hawlio yng Nghymru

Dau berson hyn yn edrych ar eu sefyllfa ariannol

Mae dros £100 miliwn o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio yng Nghymru, yn ol elusen Age Cymru.

Dywedodd yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, bod £3bn o fudd-daliadau’r wladwriaeth yn mynd heb eu hawlio bob blwyddyn yn y DU.

Mae Age Cymru yn annog pobl hŷn yng Nghymru i wirio a ydyn nhw’n hawlio’r holl gymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw.

Yn ôl Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd, dyw nifer o bobl hŷn ddim yn gwybod eu bod nhw’n gymwys i dderbyn gwahanol fathau o gymorth.

“Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb, ond mae pobl hŷn yng Nghymru yn arbennig o agored i niwed,” meddai.

“Un o’r ffactorau mae pobl yn dweud wrthym ar ôl dysgu am y cymorth sydd ar gael yw nad oedden nhw’n gwybod bod ganddyn nhw hawl iddo.

“Mae llawer o bobl hŷn heb hawlio budd-daliadau neu gymorth o’r blaen, ac yn aml yn credu na fyddan nhw’n gymwys.”

Mae Age Cymru wedi lansio ei chanllaw blynyddol, Mwy o arian yn eich poced, sy’n nodi pa gymorth ariannol sydd ar gael i bobl hŷn.

Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am bensiynau, cymorth gyda chostau’r cartref a chymorth llesiant.

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gymorth fel Credyd Pensiwn, cynlluniau Gostyngiad Treth y Cyngor, Taliadau Tanwydd Gaeaf, y Gostyngiad Cartref Cynnes, Lwfans Gofalwr a Lwfans Gweini.

Mae’r elusen yn dweud bod rhai mathau o gymorth ar gael heb asesiad ariannol, sy’n golygu bod mwy o bobl yn gymwys nag y mae llawer yn ei feddwl.

Mae Age Cymru hefyd wedi rhannu profiad dyn sydd wedi cael ei alw’n John gan yr elusen.

Doedd John erioed wedi hawlio budd-dal o’r blaen gan ei fod yn credu na fyddai’n gymwys.

Ond ar ôl gofyn am gymorth, fe ddaeth i’r amlwg ei fod e a’i wraig wedi colli'r cyfle i hawlio bron i £10,000 o gymorth a oedd yn ddyledus iddyn nhw bob blwyddyn.

“Pan nad ydych chi erioed wedi hawlio unrhyw beth yn eich bywyd, dydych chi ddim yn gwybod beth yw’r drefn,” meddai John.

“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’n bywydau bob dydd.

“Hoffwn i fod wedi dysgu amdano’n gynt, a byddwn i’n annog pawb i ddarllen y canllaw neu ffonio Age Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.