Carchar i ddyn ar ôl i'r heddlu ddarganfod arfau yng Nghwm Afan
Mae dyn 51 oed wedi ei garcharu am bum mlynedd a hanner wedi i arfau gael eu darganfod mewn tŷ ym mhentref Abergwynfi, Castell-nedd Port Talbot.
Roedd Maximin Carter yn cadw'r arfau mewn tŷ ar Stryd Commercial, a daeth yr heddlu o hyd iddyn nhw yn ystod cyrch sylweddol ei faint, fis Chwefror.
Fis Mawrth, plediodd Carter yn euog i chwe chyhuddiad o fod ag arfau yn ei feddiant mewn lleoliad preifat, yn ogystal â chyhuddiad o fod â gwn awyr yn ei feddiant.
Wedi'r achos dedfrydu ddydd Llun, dywedodd y Ditectif Ringyll Kristian Burt: “Yn ddealladwy, achosodd y digwyddiad fis Chwefror bryder mawr yn y gymuned yn Abergwynfi, gyda phobl yn ansicr a oedd eu cartrefi yn ddiogel oherwydd natur yr arfau roedd Maximin Carter wedi eu casglu.
“Hoffem ddiolch i'r trigolion hynny am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth, tra roeddem yn cynnal ein hymchwiliad, ar ôl i Maximin Carter gael ei arestio fis Chwefror.
“Gallaf eu sicrhau fod Abergwynfi yn lle llawer mwy diogel bellach, am fod yr arfau hyn wedi eu cymryd oddi yno.”