Neges Ewyllys Da yr Urdd yn cael ei darlledu o Camp Nou
Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni yn canolbwyntio ar “bwysigrwydd cadw ieithoedd lleiafrifol, rhanbarthol a brodorol.”
Bydd y neges, sydd yn datgan bod “heddwch yn siarad pob iaith”, yn cael ei darlledu o'r Spotify Camp Nou, stadiwm clwb pêl-droed Barcelona, sydd â chysylltiad dwfn â hunaniaeth Gatalanaidd.
Mae’r neges wedi ei chreu gan bobl ifanc Cymru, ac eleni fydd y 105fed tro iddi gael ei rhannu.
Dyma’r unig neges heddwch genedlaethol yn y byd a gaiff ei hysgrifennu a’i darlledu gan bobl ifanc i bobl ifanc, meddai'r Urdd.
Gydag arbenigwyr yn rhybuddio y gallai hanner y 7,000 o ieithoedd yn y byd ddiflannu erbyn diwedd y ganrif oherwydd globaleiddio, mudo, a newid hinsawdd, mae neges 2026 yn “alwad ingol i weithredu.”
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, fod y mudiad eisiau dangos bod cymunedau ieithyddol bach yn “gallu ffynnu.”
“Ers dros ganrif, mae’r Urdd wedi grymuso pobl ifanc Cymru i siarad allan ynghylch materion mwyaf dybryd y byd," meddai.
"Mae lansio neges eleni o Spotify Camp Nou yn symbol pwerus o undod rhyngwladol rhwng ieithoedd lleiafrifol. Rydyn ni’n dangos y gall cymunedau ieithyddol bach greu llais cyfunol enfawr, a phan fydd ieithoedd yn ffynnu, mae cyfle i heddwch.”
'Hanfodol'
O dan thema bwerus ‘Ieithoedd Lleiafrifol’, cafodd y neges ei harwain eleni gan y bardd Marged Tudur mewn cydweithrediad â myfyrwyr yn Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam, Coleg Cambria, a Phrifysgol Wrecsam.
Cafodd y neges ei hysgrifennu mewn gweithdy undydd ochr yn ochr â’r artist poblogaidd Sioned Medi Evans a’r academydd iaith Dr Ianto Gruffydd.
Mae'r neges yn "archwilio'r rôl hanfodol y mae ieithoedd yn ei chwarae wrth feithrin empathi, perthyn a chydfodolaeth heddychlon."
Wrth drafod y broses o lunio’r neges, dywedodd Marged Tudur: “Braint oedd cael gweithio gyda phobl ifanc Wrecsam i lunio’r neges hon.
"Maen nhw’n gweld bod ieithoedd lleiafrifol yn hanfodol er mwyn adeiladu heddwch ac er mwyn gallu dod i ddeall ein hunain, ein gilydd a'r byd yn well.
"Maen nhw’n datgan yn glir hefyd bod amddiffyn ein hamrywiaeth ieithyddol yn gyfrifoldeb ac yn ddyletswydd arnon ni i gyd.”
Mae neges 2026 wedi’i chyfieithu i 75 o ieithoedd, gan gynnwys mwy o ieithoedd lleiafrifol nag erioed o’r blaen, fel Cwrdeg, iaith sy'n cael ei siared mewn gwladwriaethau sydd wedi’u taro gan wrthdaro, fel Iran a Syria.
Ychwanegodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae timau rhyngwladol Cymru yn ymfalchïo’n aruthrol mewn cynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang, gan arddangos ein hunaniaeth, ein hiaith, a’n gwerthoedd craidd fel cenedl i’r byd.
"Mae’r Urdd yn gwneud yr union beth drwy ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da hanesyddol. Mae ein partneriaeth barhaus yn profi bod Cymru, ar y cae ac oddi arno, yn parhau i anelu’n uchel i hyrwyddo parch, amrywiaeth a heddwch yn fyd-eang.”