Dyn wedi marw ar ôl mynd fewn i ardal y teigrod mewn parc bywyd gwyllt

Teigr (Paul Harrop via Wikimedia Commons), arwydd Yorkshire Wildlife Park (Annabel Lee-Ellis/PA Wire)

Mae dyn wedi marw ar ôl iddo fynd i mewn i ardal y teigrod mewn parc bywyd gwyllt yng ngogledd Lloegr.

Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog yn wreiddiol bod y dyn wedi cael ei "anafu'n ddifrifol" ar ôl iddo fynd i fewn i ardal y teigrod yn Yorkshire Wildlife Park ger Doncaster.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno ar ôl i deigr "ymosod" ar y dyn ychydig wedi 13:30 brynhawn Sadwrn.

Ond yn hwyrach ddydd Sadwrn fe gyhoeddodd y llu bod y dyn wedi marw o'i anafiadau.

Dywedodd datganiad gan yr heddlu: “Am 1.35yp heddiw (Dydd Sadwrn 10 Hydref) cawsom adroddiadau bod dyn wedi mynd i mewn i loc teigrod yn Yorkshire Wildlife Park.

“Yna ymosododd y teigr ar y dyn, gan achosi anafiadau difrifol.

“Daeth y gwasanaethau brys i’r lleoliad ac yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau’r staff meddygol, cadarnhawyd bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

“Mae teulu’r dyn yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol. 

"Mae ein meddyliau gyda nhw yn ystod y cyfnod trallodus hwn."

Image
Yorkshire Wildlife Park
Agorodd y parc yn 2009, gydag ardal y teigrod yn dod i fodolaeth yn 2011. Llun: Annabel Lee-Ellis/PA Wire

Ychwanegodd y llu: “O ran sibrydion ynghylch cyflwr y teigr, ni chafodd yr anifail unrhyw anafiadau ac arhosodd yn y lloc yn dilyn y digwyddiad; nid oes unrhyw risg ehangach i’r cyhoedd.

“Yn dilyn y digwyddiad, gwacawyd Yorkshire Wildlife Park ac mae swyddogion yn parhau yn y lleoliad yn cynnal ymholiadau. 

"Rydym yn ymwybodol o fideos sy’n cylchredeg ar-lein ac rydym yn annog pobl i beidio â rhannu’r deunydd hwn.”

Mae fideos sydd wedi eu cyhoeddi ar-lein yn dangos anifail yn ymaflyd â dyn ifanc ar y gwair o fewn corlan arddangos.

Cadarnhaodd gwasanaeth ambiwlans Swydd Efrog yn gynharach bod meddyg, dwy ambiwlans a'r ambiwlans awyr lleol eu gyrru i'r safle.

'Digwyddiad difrifol'

Un o atyniadau Yorkshire Wildlife Park yw ardal o'r enw Land of the Tigers, sy'n cynnwys llwybr sy'n gadael i ymwelwyr edmygu'r anifeiliaid o uchder.

Dywedodd y parc eu bod wedi cau'r parc yn dilyn y digwyddiad ac y bydd yr atyniad yn parhau ynghau fory.

"Gallwn gadarnhau bod digwyddiad difrifol wedi digwydd heddiw yn ardal y teigrod," meddai'r parc mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Cafodd ein gweithdrefnau brys eu gweithredu'n syth ac mae gwasanaethau brys yn bresennol ar y safle ar hyn o bryd.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos â'r awdurdodau i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd.

"Ein prif flaenoriaeth o hyd yw lles a diogelwch ein ymwelwyr, staff ac anifeiliaid. Mae'r parc nawr ar gau a bydd yn parhau ynghau fory."

Lluniau: Annabel Lee-Ellis/PA Wire, Paul Harrop, CC BY-SA 2.0 via Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.