Mae dyn sy'n cadw anifeiliaid anghyffredin, gan gynnwys walabïod, mongwsiaid, draenogod pigog a drewgwn, ar dir yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin wedi cael gorchymyn i'w symud.
Mae James Wale, sy'n byw mewn caban pren ar safle 17 erw ger Llannon, hefyd yn cadw eryrod, hebogau, parotiaid ac adar prin eraill.
Ond mae arolygydd cynllunio wedi gwrthod ei apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ar ôl penderfynu bod y defnydd o'r tir yn torri rheolau cynllunio.
Fe symudodd Mr Wale i'r safle ddwy flynedd yn ôl, ar ôl rhedeg busnes adar prin ar dir Castell Picton yn Sir Benfro.
Yn ôl ei asiantiaid cynllunio, fe ddaeth y busnes hwnnw i ben ar ôl i'w brydles beidio â chael ei hadnewyddu.
Roedd wedi bwriadu sefydlu atyniad twristiaeth ar y safle ger Llannon i ddechrau, ond fe newidiodd ei gynlluniau i greu cartref preifat ar gyfer gofalu am adar, ochr yn ochr â rhywfaint o waith amaethyddol a choedwigaeth.
Mae tua 25 adardy, sef llociau arbennig ar gyfer cadw adar, ar y tir, ynghyd â nifer o adeiladau pren sy'n cael eu defnyddio i gadw bwyd a chyfarpar ar gyfer yr anifeiliaid.
'Fel jyngl trofannol'
Yn ystod yr apêl, fe fynegodd saith o wrthwynebwyr bryderon am y gweithgareddau ar y safle, gan gynnwys sŵn, cyflwr y tir ac anifeiliaid yn crwydro.
Roedd un o'r gwrthwynebwyr yn honni bod y sŵn yn aml yn debyg i "jyngl trofannol", a bod sŵn generaduron a chŵn yn cyfarth yn achosi trafferth, yn enwedig yn hwyr yn y nos.
Roedd un arall yn honni bod geifr a chi wedi crwydro ar eu tir, tra bod cynghorydd Llannon, Llinos Mai Davies, yn dadlau bod y safle'n cael effaith negyddol ar eiddo cyfagos a chymeriad yr ardal.
Fe gyhoeddodd y cyngor ddau hysbysiad gorfodi yn 2025, cyn tynnu un ohonyn nhw'n ôl, ac yna hysbysiad arall ym mis Ionawr 2026.
Yn ei benderfyniad, fe ddaeth yr arolygydd cynllunio i'r casgliad mai cadw adar ac anifeiliaid anghyffredin oedd prif ddefnydd y safle, yn hytrach na gweithgareddau amaethyddol.
O ganlyniad, bydd yn rhaid i Mr Wale roi'r gorau i fyw ar y tir, symud y caban a'r system ddraenio gysylltiedig, a rhoi'r gorau i gadw adar ac anifeiliaid sydd ddim yn cael eu hystyried yn rhai amaethyddol.
Bydd hefyd yn rhaid iddo gael gwared ar y llociau a dychwelyd y tir i'w gyflwr gwreiddiol.
Mae'r arolygydd wedi rhoi 12 mis iddo gydymffurfio â'r gofynion, gan ymestyn y cyfnod gwreiddiol o chwe mis ar gyfer symud yr anifeiliaid a'r llociau.
Yn ôl yr arolygydd, gallai gymryd mwy o amser i ddod o hyd i leoliad addas arall i'r anifeiliaid oherwydd eu natur anghyffredin.
Mae asiantiaid Mr Wale wedi dweud wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol eu bod yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio mewn ymgais i gadw'r adar ar y safle.
Cysylltodd y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol â Mr Wale am ymateb, ond ni chafwyd ateb.