Dyluniad o bencadlys newydd Cyngor Caerdydd yn hollti barn
Mae delweddau newydd o gynlluniau ar gyfer pencadlys newydd Cyngor Caerdydd yn ardal Glanfa'r Iwerydd o'r brifddinas wedi ymddangos - gyda'r dyluniad yn hollti barn
Mae pencadlys presennol y cyngor, sydd hefyd yng Nglanfa'r Iwerydd, wedi cael ei ddisgrifio yn y gorffennol fel adeilad sy’n "peri risg oherwydd dirywiad strwythurol a chostau cynnal a chadw cynyddol".
Roedd y cyngor eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n symud i adeilad newydd fel rhan o gynllun ehangach i adfywio ardal Bae Caerdydd.
Bellach, mae cais cynllunio gan gwmni Goldbeck Construction Ltd wedi datgelu delweddau newydd o’r datblygiad arfaethedig.
Yn ôl y dogfennau cynllunio, bydd y safle mewn lleoliad amlwg rhwng canol dinas Caerdydd a’r Bae, ac yn rhan o uwchgynllun ehangach Glanfa'r Iwerydd.
Bydd y datblygiad yn cynnwys swyddfeydd cyfoes ar gyfer y cyngor yn ogystal â lleoliad diwylliannol i Ganolfan Mileniwm Cymru o’r enw ‘Capella’.
Dywed y dogfennau fod y gwahaniaeth rhwng yr adeilad swyddfa tryloyw a’r theatr fwy caeedig wedi’i gynllunio i greu “deialog bensaernïol fwriadol”.
Ond mae rhai wedi mynegi siom gyda’r cynlluniau.
Mewn sylw cyhoeddus sydd wedi’i gyflwyno fel rhan o’r cais, disgrifiwyd yr adeilad fel un sy’n debycach i “ddatblygiad swyddfeydd masnachol cyffredinol” nag adeilad sy’n cynrychioli Caerdydd a’i sefydliadau cyhoeddus.
Disgrifiodd yr unigolyn y dyluniad hefyd fel un “eithriadol o ddi-nod, diflas a diddychymyg”, gan ddweud ei fod yn siomedig gyda’r hyn oedd yn ymddangos fel diffyg uchelgais.
Dywedodd unigolyn arall, oedd wedi bod yn “wirioneddol gyffrous” am y cynllun adfywio yn wreiddiol, ei fod bellach yn credu bod yr uchelgais wreiddiol wedi’i cholli.
Yn ôl adroddiadau, disgwylir i gost y prosiect i Gyngor Caerdydd fod oddeutu £60 miliwn.