Dwy ysgol yng Nghaerdydd i barhau ar gau wedi bygythiad
Bydd dwy o ysgolion uwchradd Caerdydd yn parhau ar gau ddydd Mawrth, wedi i Heddlu De Cymru ymchwilio i wybodaeth ddaeth i law swyddogion nos Sul.
Yn ôl y llu, daeth penderfyniad i gau Ysgol Uwchradd Llanisien ac Eastern High School fel cam diogelwch tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Cyhoeddodd yr heddlu brynhawn Llun fod gwybodaeth wedi dod i law am 20:30 nos Sul yn ymwneud â bygythiadau ar-lein.
Mae'n ymddangos fod unigolyn yn bwriadu mynd i'r ysgolion gydag arfau, yn ôl y llu.
Mae'r heddlu'n dweud fod ymchwiliad trylwyr yn cael ei gynnal er mwyn asesu pa mor gredadwy oedd y bygythiad, ac o le yn union y daeth.
Maen nhw'n pwysleiso nad oes tystiolaeth fod unrhyw un wedi mynd i'r ysgolion dan sylw yn ymddwyn yn fygythiol.
Daeth penderfyniad i gau'r ysgolion wedi trafodaethau rhwng yr heddlu a Chyngor Caerdydd.
Mae Newyddion S4C yn deall fod penderfyniad wedi ei wneud i ailagor y ddwy ysgol ddydd Mercher, er mwyn i athrawon gael cyfle ddydd Mawrth i baratoi cynlluniau ar gyfer y disgyblion yn dychwelyd y diwrnod canlynol.