Dwy o raeadrau Cymru ar stampiau newydd gan y Post Brenhinol
Mae’r Post Brenhinol wedi datgelu delweddau o 10 stamp sy’n arddangos rhai o raeadrau mwyaf trawiadol y DU, gan gynnwys dwy o Gymru.
Mae’r stampiau yn cynnwys Rhaeadr Pistyll ger pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yng ngorllewin Maldwyn, Powys, a Rhaeadr y Graig Lwyd yng Nghonwy.
Mae’r stampiau’n cynnwys ffotograffau o raeadrau ar draws y DU, gyda’r Post Brenhinol yn dweud eu bod yn cyfleu grym a harddwch rhai o dirweddau naturiol mwyaf dramatig y wlad.
Y rhaeadrau eraill sydd i’w gweld ar y stampiau yw: Rogie Falls; Pollnagollum Cave; Aysgarth Falls; Becky Falls; Hardraw Force; Fairy Pools of Glen Brittle; High Force; ac Ess-na-Larach.
Dywedodd David Gold, cyfarwyddwr materion allanol a pholisi’r Post Brenhinol: “Mae Ynysoedd Prydain yn gyfoethog o ran harddwch naturiol ac mae’r stampiau hyn yn tynnu sylw at rai o raeadrau mwyaf trawiadol y DU ym mhob un o’r pedair gwlad.
“Maen nhw’n arddangos cyfoeth ein hamgylchedd naturiol sydd wedi cael ei lunio gan ddŵr dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd.”