Rhybudd oren am dywydd poeth eithafol i rannau o Gymru
Mae rhybudd oren am "dywydd poeth eithafol" wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o Gymru ddechrau wythnos nesaf.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 01:00 fore Llun a 23:59 ddydd Mawrth yr wythnos nesaf.
Mae rhagolygon yn awgrymu fe allai'r tymheredd gyrraedd 35C mewn rhai ardaloedd o'r wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y bydd y tymheredd hefyd yn cyrraedd dros 20C dros nos.
Rhybuddiodd y gallai rhai pobl ddioddef problemau iechyd o ganlyniad i'r tywydd poeth, gan rybuddio pobl yn benodol o beryglon fel llosg haul a syched eithafol.
Mae'n bosib y bydd oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd.
Mae'r rhybudd yn benodol ar gyfer ardaloedd Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.