Andy Burnham am 'osod llwybr newydd i Brydain' ar ôl ennill is-etholiad
Andy Burnham am 'osod llwybr newydd i Brydain' ar ôl ennill is-etholiad
Mae Andy Burnham wedi dweud ei fod yn bwriadu "gosod llwybr newydd i Brydain" ar ôl iddo ennill is-etholiad Makerfield.
Fe enillodd cyn Faer Manceinion dros 25,000 o bleidleisiau yn yr is-etholiad yng ngogledd-orllewin Lloegr, wrth iddo hawlio'r sedd gyda mwyafrif o dros 9,000 dros yr ymgeisydd Reform UK, Robert Kenyon, a ddaeth yn ail.
Wrth annerch ei gefnogwyr yn ei etholaeth newydd fore Gwener, dywedodd Mr Burnham bod yn rhaid i'r Blaid Lafur wneud rhywbeth "i wneud bywyd yn fforddiadwy" eto ac i "roi mwy o le i bobl anadlu, fel y gallant gael bywyd gwell".
"Mae angen economi arnom sy'n gweithio i bawb," meddai, gan ychwanegu bod angen i gost dŵr, ynni a phrisiau trên ostwng.
Mae Mr Burnham hefyd yn galw am "ymgyrch newydd o ail-ddiwydiannu" a system addysg sy'n "cynnig llwybr i bawb".
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, mae disgwyl i Mr Burnham herio Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, am arweinyddiaeth y blaid.
Yn flaenorol mae Mr Burnham wedi dweud y byddai’n ceisio sefyll pe bai unrhyw gystadleuaeth yn cael ei chynnal am arweinyddiaeth y blaid.
Ond mae Prif Weinidog y DU wedi dweud na fydd yn ildio’r arweinyddiaeth, gan fynnu y byddai’n brwydro pe bai unrhyw her.
Wrth ymateb i’r canlyniad, dywedodd Syr Keir bod etholwyr yn Makerfield wedi dewis "ymgyrch o obaith ac optimistiaeth gan Lafur dros raniadau a chasineb".
Mae wedi dweud yn flaenorol ei fod yn dymuno arwain y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, er gwaethaf y pwysau cynyddol sydd arno yn dilyn perfformiad siomedig y blaid mewn etholiadau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.
Inline Tweet: https://twitter.com/Keir_Starmer/status/2067835432667111533?s=20
Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ddydd Mercher ei fod "yn barod" i danio gornest arweinyddiaeth mor fuan ag wythnos nesaf.
Mae canlyniad yr is-etholiad yn golygu fod Mr Burnham wedi ildio ei rôl fel Maer Manceinion, swydd y mae wedi ei ddal ers 2017.
Bydd etholiad i benderfynu ar ei olynydd yn cael ei gynnal ar 30 Gorffennaf.
Dywedodd Mr Burnham bod "prawf Makerfield wrth galon gwleidyddiaeth Brydeinig ac y bydd yn sicrhau y byddai'r llefydd sydd wedi'u hanwybyddu gan San Steffan nawr yn cael tegwch".
Mae'r Gweinidog Cabinet Lisa Nandy wedi dweud ei bod yn dymuno gweld Mr Burnham "yn ôl wrth y bwrdd uchaf".
Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant: "Yr hyn y mae Andy wedi’i ddangos yma yw bod rhywbeth y mae’n ei gyfrannu, parodrwydd i fynd allan ac ymladd dros y newid sydd ei angen ar bobl, i fynd i’r afael ag unrhyw system ac unrhyw berson sy’n sefyll yn y ffordd ac i fod yn feiddgar ac i wisgo’i galon ar ei lawes, ac mae pobl wedi ymateb."
Prif lun: PA