Finucane, Davies ac Azu yn rhan o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
Mae tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow eleni wedi’i gyhoeddi.
Mae’r bencampwraig seiclo Olympaidd Emma Finucane, y pencampwr Paralympaidd Aled Sion Davies, cyn-bencampwr rhedeg y byd Jeremiah Azu a’r bencampwraig gymnasteg Brydeinig, Ruby Evans ymhlith yr enwau sydd wedi eu dewis.
Bydd 144 o athletwyr yn cynrychioli Cymru mewn 10 o gampau, gan gynnwys athletau, nofio, seiclo trac, gymnasteg, bocsio, codi pwysau, pêl-rwyd, pêl fasged cadair olwyn a judo.
Yn eu plith mae 14 aelod a enillodd fedal yng Ngemau’r Gymanwlad ddiwethaf yn Birmingham yn 2022, gan gynnwys pump aelod a enillodd fedal aur.
Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones: “Mae’n fraint anhygoel arwain Tîm Cymru'r haf hwn yn Glasgow a gwasanaethu fel llefarydd ar ran y grŵp talentog hwn o athletwyr.
“Fy rôl i yw cefnogi ac arwain y tîm, gan sicrhau bod gan bob athletwr yr amgylchedd a'r anogaeth sydd eu hangen arnynt i berfformio ar eu gorau ar lwyfan y Gymanwlad.
“Mae'r grŵp hwn yn cynrychioli'r gorau o chwaraeon Cymru — yn ymroddedig, yn uchelgeisiol ac yn falch o wisgo'r crys coch.”
Ychwanegodd Gareth Davies, Cadeirydd Tîm Cymru: "Mae cyhoeddi'r tîm bob amser yn foment o falchder, nid yn unig i'r athletwyr ond i bawb sy'n rhan o wneud y daith hon yn bosibl.
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynychu'r Gemau a chefnogi'r tîm wrth iddynt gynrychioli Cymru gyda balchder ar lwyfan y byd."
Tîm Cymru – Glasgow 2026
Athletau: Abigail Pawlett, Adelle Nicoll, Aled Davies, Amber Simpson, Ava Lloyd, Bree Cronin, Cari Hughes, Charlotte Henrich, Ellie Bowen, Fumni Oduwaiye, Harrison Walsh, Isobelle Boffey, Jake Heyward, Jeremiah Azu, Justin Davies, Melissa Courtney-Bryant, Olivia Breen, Thomas Walley.
Bowliau: Amy Williams, Daniel Salmon, Jamies Jones (Cyfarwyddwr), John Wilson (Cyfarwyddwr), Julie Thomas, Lauren Gowen, Ross Owen, Steffan James.
Bocsio: Connor Williams, Daniel Pitt, Helen Jones, Niamh Brookes, Orlando Holley-Sotomi, Owain Harris-Allan, Rosie Eccles.
Codi Pwysau: Catrin Haf Jones, Chloe Hood, James Wales, Laura Hughes, Madaline Connelly, Nikole Roberts.
Gymnasteg: Abigail Roper, Alexander Niscoveanu, Elliot Vernon, Emily Roper, Frances Stone, Henry Lewis, Jacob Edwards, Jemima Taylor, Joe Cemlyn-Jones, Ruby Evans.
Judo: Ashleigh Barnikel, Ben Moore, Holly Devall, Joshua Bell, Joshua Whitehouse, Lola Hodson, Millie Bayliss, Oliver Barrett.
Nofio: Alexandra Bastone, Amy Crowley, Dan Jones, Dylan Broom, Ela Letton-Jones, Harry Milne, Jack Knight, Joshua Inglis, Kieran Bird, Kyle Booth, Lewis Fraser, Matthew Richards, Medi Harris, Meghan Higgs, Meghan Willis, Rebecca Sutton, Rhys Darbey, Rose Williams, Sophie Davies, Theodora Taylor, Tyler Melbourne-Smith.
Seiclo Trac: Anna Morris, Carys Lloyd, Ciara Oliva, Emma Finucane, Ioan Hepburn, James Ball, Jessica Roberts, Jonah Jenkins, Lewis Oliva, Lowri Thomas, Matthew Botherham (Peilot), Megan Barker, Rhian Edmunds, Rhys Britton, Rory Gravelle, Steffan Lloyd, William Perrett, William Roberts, William Slater.