Bydd cerflun o'r ymgyrchydd dros hawliau menywod a phlant Elizabeth Andrews yn cael ei ddadorchuddio yn Nhrehafod yng Nghwm Rhondda yr wythnos nesaf.
Fe fydd yn cael ei ddadorchuddio yn Amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda ar ddydd Iau, 25 Mehefin yn dilyn ymgyrch gan y grŵp Monumental Welsh Women.
Y cerflun hwn yw'r pumed a'r olaf o Gymraes go iawn a fydd yn cael ei godi gan Monumental Welsh Women yn dilyn ymgyrch genedlaethol i anrhydeddu arwresau Cymru.
Y menywod sydd wedi cael eu hanrhydeddu gan yr ymgyrch yw:
Betty Campbell, prifathrawes ddu gyntaf Cymru a hyrwyddwraig cydraddoldeb ac amrywiaeth (dadorchuddiwyd y cerflun yn 2021 yng Nghaerdydd)
Elaine Morgan, sgriptwraig a damcaniaethwraig esblygiad (dadorchuddiwyd y cerflun yn 2022 yn Aberpennar)
Sarah Jane Rees, a adnabyddir fel Cranogwen, bardd, morwr, pregethwraig ac ymgyrchydd (dadorchuddiwyd y cerflun yn Llangrannog yn 2023)
Yr Arglwyddes Rhondda, Swffragét, menyw fusnes fyd-eang ac ymgyrchydd gydol oes dros gydraddoldeb (dadorchuddiwyd y cerflun yng Nghasnewydd yn 2024).
Mae'r cerflun efydd 6.5 troedfedd wedi'i ddylunio a'i greu gan y cerflunydd Billie Bond, sy'n adnabyddus am ei gweithiau ffigurol.
Ymysg ei gweithiau blaenorol mae cerflun o'i chwaer sydd â Syndrom Down, ar y 4ydd Plinth yn Sgwâr Trafalgar fel rhan o One & Other Anthony Gormley oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd celf i bawb.
Dywedodd Helen Molyneux, Cadeirydd Monumental Welsh Women: “Rydyn ni wrth ein bodd yn datgelu ein pumed cerflun, a’n cerflun olaf o Gymraes go iawn.
"Mae gwaith diflino Elizabeth Andrews dros ei chymuned – a thros deuluoedd gweithiol ym mhobman - yn parhau i gael ei weld mewn ffordd amlwg heddiw.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd tynnu sylw at ei hetifeddiaeth, a gwaddol pob un o'r pum menyw a anrhydeddwyd gan ymgyrch Monumental Welsh Women yn ysbrydoliaeth i fenywod a merched ledled Cymru.
"Cyn i gerflun Betty Campbell gael ei ddatgelu yng Nghaerdydd, nid oedd un cerflun o Gymraes ag enw yng Nghymru.
"Rydyn ni wastad wedi dweud, 'Allwch chi ddim bod yn yr hyn na allwch ei weld’, a nawr mae gan Gymru bum cerflun yn adrodd straeon y menywod rhyfeddol hyn sy'n esiampl o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd menywod yn defnyddio eu lleisiau i siarad dros newid.”
Image
Y pump cerflun
'Braint'
Roedd Elizabeth Andrews yn un o ymgyrchwyr gwleidyddol benywaidd mwyaf dylanwadol Cymru ddechrau'r 20fed ganrif.
Yn rhyngwladolwraig, yn swffragét ac yn sosialydd a ddaeth ag anghenion teuluoedd dosbarth gweithiol i'r arena wleidyddol, ymladdodd dros well mamolaeth a gofal plant a helpodd i sefydlu un o ysgolion meithrin cynharaf Cymru.
Ymgyrchodd yn llwyddiannus dros greu baddonau pen pwll, gan wella bywydau nid yn unig glowyr, ond hefyd menywod a phlant y cymunedau glofaol. Daeth hefyd yn un o ynadon benywaidd cyntaf Prydain.
I'r cenedlaethau o fenywod yr helpodd ac yr ysbrydolodd, roedd hi'n cael ei hadnabod yn syml fel "Ein Elizabeth Ni".
Yn un o 11 o blant a anwyd i deulu glofaol tlawd yn Hirwaun yng Nghwm Cynon, breuddwydiai Elizabeth am fod yn athrawes ond gorfodwyd hi i adael yr ysgol yn 13 oed i helpu ei rhieni i ddal dau ben llinyn ynghyd.
Gweithiodd fel gwniadwraig, gan symud i'r Rhondda yn 26 oed. Bu’r symudiad hwn yn gatalydd ar gyfer deffroad gwleidyddol Elizabeth wrth iddi weld y problemau cymdeithasol roedd ei chymuned yn eu dioddef.
Fel Trefnydd Menywod cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru, rôl a grëwyd ar ôl i rai menywod dderbyn y bleidlais ym 1918, sefydlodd Elizabeth Andrews adrannau menywod, gan eu disgrifio fel "prifysgolion menywod gweithiol".
Un o'i thasgau cynharaf oedd cyfieithu taflenni o'r Saesneg i'r Gymraeg i annog menywod i ddefnyddio'u pleidlais newydd.
Ym 1919, rhoddodd Elizabeth Andrews dystiolaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi i Gomisiwn Brenhinol ar y diwydiant glo, gan siarad yn bwerus am effaith y pyllau glo ar fywyd teuluol.
Chwaraeodd ran allweddol wrth drefnu cymorth cymunedol yn ystod cload allan y glowyr ym 1926 yn dilyn y Streic Gyffredinol a dinistr economaidd dilynol y Dirwasgiad yn y 1930au.
Dywedodd y cerflunydd Billie Bond: “Braint fawr yw bod yn rhan o'r prosiect nodedig hwn, yn creu'r pumed cerflun ar gyfer Monumental Welsh Women.
"Roedd yn bwysig i mi nid yn unig i bortreadu Elizabeth Andrews OBE fel y fenyw gref, benderfynol yr oedd hi, ond hefyd i adrodd hanes rhai o'i llwyddiannau mwyaf arwyddocaol wrth wella bywydau cymunedau glofaol.
"Roedd ei hymgyrch dros faddonau pen pwll gorfodol a'i hymroddiad i gefnogi plant yn ystod cload allan y glowyr ym 1926 yn agweddau arbennig o bwysig ar y naratif roeddwn eisiau i'r cerflun ei gyfleu.
“Roedd hefyd yn bleser cynnwys grŵp gwnïo lleol Hirwaun yn y dyluniad. Gobeithio bod hyn yn deyrnged addas i etifeddiaeth Elizabeth Andrews ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau'r dyfodol o fenywod yng Nghymru.”