Dot Cotton yn cael lle ar furlun newydd sy’n dathlu hanes Pont-iets
Mae’r cymeriad adnabyddus o’r opera sebon EastEnders, Dot Cotton, wedi cael lle ar furlun newydd sy’n dathlu hanes Pont-iets yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd June Brown, yr actores oedd yn chwarae Dot, ei hanfon i Bont-iets fel faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fe wnaeth ei phrofiad ysbrydoli stori debyg i Dot Cotton, a gafodd ei harchwilio yn y rhaglen arbennig EastEnders: Dot’s Story yn 2003, wrth i’r cymeriad ddychwelyd i Gymru.
Mae’r portread bellach yn rhan o furlun mawr ym mharc y pentref, a gafodd ei greu gan Stephen ‘Jenks’ Jenkins, artist murluniau sy’n defnyddio caniau chwistrellu.
Yn ogystal â’r cymeriad chwedlonol o Albert Square, mae’r murlun hefyd yn cynnwys delweddau o gamlas a thrên, glöwr a glofa, coeden helyg, draig Gymreig, rygbi Pont-iets a’r Twrch Trwyth.
Bu plant Ysgol Pontiets ac Ysgol Gwynfryn yn helpu i benderfynu beth ddylai ymddangos ar y wal.
Dywedodd Stephen nad oedd yn gwybod am gysylltiad June Brown â’r pentref cyn i’r syniad gael ei godi yn ystod sesiwn yn un o’r ysgolion.
“Pan esbonion nhw'r stori, ro'n i’n meddwl ei bod hi’n ddiddorol iawn, ond do'n i ddim yn meddwl ar y dechrau y byddai Dot yn cyrraedd y murlun,” meddai.
Nid oedd wedi bwriadu cynnwys y cymeriad, ond roedd un o drefnwyr y prosiect yn benderfynol y dylai hi gael lle.
“Dywedodd hi, ‘Wyt ti’n mynd i roi Dot arno?’
“Dywedais nad oeddwn wedi bwriadu gwneud hynny, ond roedd hi’n bendant iawn, ‘Ie, gwna, gwna.’
“Felly dywedais, ‘Iawn, fe wna i ei rhoi hi ar y pen.’”
Dywedodd mai portread Dot sydd bellach yn denu’r sylw mwyaf.
“Dyma’r rhan o’r murlun y mae pawb yn gofyn amdano ac yn siarad amdano,” meddai.
“Mae’n debyg mai hon fydd y rhan fwyaf poblogaidd o’r wal gyfan.”
Hanes y pentref
Roedd Trudie Jones, athrawes a gafodd ei magu ym Mhont-iets ac a fu’n ddisgybl yn yr ysgol, yno pan ymwelodd Stephen â’r plant.
"Ro'n ni'n cofio pobol yn siarad am June Brown yn dod i Bont-iets fel faciwî," meddai.
“Pan ddaeth Jenks draw i sôn am y murlun, o’n i’n gweud wrth y plant i ddewis pethe gwahanol.
“‘Come on nawr, beth y’ch chi’n cofio?’
“Does dim enwogion rygbi mawr gyda ni. Mae Jonathan Davies o Drimsaran a wedyn Barry John o Gefneithin, felly o’n ni jyst moyn rhywbeth gwahanol.”
Dechreuodd y prosiect tua phedair blynedd yn ôl, cyn i’r gymuned godi arian er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith.
Dywedodd Trudie fod pobl y pentref yn falch o weld eu hanes yn cael ei ddathlu.
“Mae pobl yn teimlo’n falch achos mae fe’n neis cael hanes sy’n wahanol i lefydd eraill,” meddai.
I Stephen, roedd Dot Cotton yn un o’r ceisiadau mwyaf anarferol iddo ei gael.
“Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n peintio Dot Cotton mewn pentref gwledig yng Nghymru,” meddai.
“Mae’n stori ddiddorol iawn.”
