Disgwyl penderfyniad ar gynllun dadleuol i ganoli gwasanaethau strôc y gorllewin

Ysbyty Glangwili, Protest Ysbyty Bronglais

Mae disgwyl i fwrdd iechyd y gorllewin ddod i benderfyniad ar gynllun i ganoli gwasanaethau strôc yng Nghaerfyrddin.

Fe fydd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cwrdd ddydd Iau i drafod y camau nesaf wedi dau gyfnod ymgynghori.

Ar hyn o bryd, mae unedau strôc ym mhedair prif ysbyty'r dalgylch - ysbytai Glangwili yng Nghaerfyrddin, y Tywysog Philip yn Llanelli, Llwynhelyg yn Hwlffordd a Bronglais yn Aberystwyth.

Ond, yn ôl y bwrdd iechyd, dydy'r trefniant presennol ddim yn "bodloni safonau clinigol cenedlaethol yn gyson" ac yn golygu bod dim "staffio strôc arbenigol ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos."

Fel rhan o ad-drefnu ehangach, mae'r awdurdod yn ffafrio cynnig i sefydlu un uned strôc acíwt 24 awr yn Ysbyty Glangwili, gyda "gwasanaeth trin a throsglwyddo" ar gyfer dioddefwyr strôc yn y tair ysbyty arall. Fe fyddai uned adsefydlu strôc yn Ysbyty Bronglais, yn ogystal.

Mae'r cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad cryf, yn enwedig yn ardal Aberystwyth, a welodd ymgyrchu helaeth ar y pwnc wedi i'r cynlluniau ddod i'r amlwg yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.