Mwy o arian i gynlluniau effeithlonrwydd ynni yng Nghymru i 'roi arian yn ôl ym mhocedi pobl'
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £19 miliwn mewn cynlluniau sy'n hyrwyddo ynni glân ac yn helpu cartrefi i wella effeithlonrwydd ynni, gan ddweud y bydd yn "rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl" drwy ostwng biliau dros y gaeaf.
Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod wedi i'r rheoleiddiwr ynni Ofgem ddweud y bydd prisiau ynni yn codi 26% i filiynau o gartrefi o fis Ionawr ymlaen, wrth i brisiau barhau i gael eu heffeithio gan y rhyfel yn Iran.
Yn ôl y rheoleiddiwr, bydd bil blynyddol aelwyd arferol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn codi o £1,723 i £2,166 pe bai’r lefel hon o brisiau’n parhau am flwyddyn.
Mae'r mesurau eisoes wedi eu cymryd gan y llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i ddelio â'r cynnydd disgwyliedig, gan gynnwys taliad o £100 i bob aelwyd ddechrau Ionawr.
Arian i ddau gynllun
Mae'r buddsoddiad newydd o dros £19m gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys £15.2m ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) a £4.15m ar gyfer cynllun Nyth, sy'n gosod mesurau gwella ynni cartref am ddim i aelwydydd sydd fwyaf mewn angen.
Dywedodd y llywodraeth bod yr arian ychwanegol yn codi maint y cyllid sydd wedi ei addo i raglen ORP eleni i £122, sy'n galluogi bwrw ymlaen â thua 11,600 o welliannau mewn cartrefi cymdeithasol.
Fe fydd cyllideb Nyth, sy'n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd incwm isel, yn cynyddu i £42 am y flwyddyn ariannol hon.
Wrth ymweld ag un o brosiectau Nyth, dywedodd Siân Gwenllian AS, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, bod "gormod o gartrefi yng Nghymru yn oer, yn llaith ac yn ddrud i'w gwresogi."
"Mae torri biliau a lleihau allyriadau carbon yn mynd law yn llaw, ac mae'r cyllid hwn, ar ben y buddsoddiad ychwanegol yn ein cyllideb, yn golygu y bydd gan fwy o aelwydydd gartref cynhesach a chostau ynni mwy fforddiadwy y gaeaf hwn," ychwanegodd.
"Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fynd ymhellach ac yn gyflymach i ddatgarboneiddio tai yn gynt, lleihau tlodi tanwydd a gwella safonau byw ledled Cymru. Dyma sut rydym yn gweithredu nawr i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl."
Ychwanegodd y llywodraeth bod y cyhoeddiad yn ategu'r £180 miliwn gafodd ei gyhoeddi yn y gyllideb ddrafft ar gyfer cynlluniau ôl-osod a datgarboneiddio y flwyddyn ariannol nesaf.
Llun: PA/Yui Mok
