'Prinder radiolegwyr' yn effeithio ar gyfnod aros am ganlyniadau sganiau canser
Mae radiolegydd wedi dweud wrth Newyddion S4C nad yw'n realistig i gleifion gael gwybod am ganlyniadau sganiau canser o fewn pum niwrnod gwaith, oherwydd prinder radiolegwyr.
Roedd Dr Sian Phillips yn ymateb i gynnwys deiseb gan wraig o Gastell Newydd Emlyn sy'n galw am sicrhau fod cleifion yn cael gwybod am ganlyniadau sganiau canser ynghynt.
Mae gŵr Catrin Jenkins yn byw gyda chanser cam pedwar. Bob tri mis, mae Robert Jenkins yn cael sgan, ac mae aros am ganlyniadau yn brofiad cyfarwydd.
Yn ôl y teulu, mae nifer yr wythnosau mae'n aros am ganlyniadau’r sganiau wedi amrywio o dair i chwe wythnos, a hynny ers 2018.
“Cwpwl o ddiwrnode cyn y sgan ti’n poeni, a wedyn pump i chwech wythnos wedi hynny ti ffili ymlacio o gwbl achos dwyt ti ddim yn gwbod beth fydd y canlyniad felly ti’n son am chwech i wyth wythnos mas o ddeuddeg wythnos lle ti ar bigau’r drain,” meddai.
“Ti methu cynllunio dim. Methu cysgu. Ti hefyd gorfod delio gyda’r plant a sut ma'n nhw’n teimlo heb sôn am sut mae’r gŵr yn teimlo”.
Yn dilyn ei sgan diweddaraf ddechrau mis Hydref, aeth Robert i deimlo’n wael.
Ar ôl dychwelyd am sganiau pellach ac wedi pum wythnos yn aros am atebion, fe gafodd Robert ei ganlyniadau.
“I unrhyw un sydd yn y sefyllfa yma, mae’r aros yn lladd person. Mae’n effeithio arnoch chi yn emosiynol. Ti wostod yn meddwl y gwaetha,” meddai Catrin Jenkins.
Deiseb
Oherwydd ei phrofiad, aeth Catrin ati i sefydlu deiseb yn galw i’w gwneud yn ofynnol i adrodd ar sganiau canser o fewn pum niwrnod gwaith.
“Ers sefydlu’r ddeiseb mae gymaint o bobl wedi bod yn cysylltu yn adrodd yr un hanes, yr holl aros a’r gofid,” meddai.
Mae hi'n galw am wella’r gefnogaeth i gleifion y tu hwnt i’r diagnosis a’r driniaeth gychwynnol.
“Mae’r tîm cyfan yn gwneud gwaith arbennig ond mae ishe newid y broses, dyw e ddim yn addas o ran beth ddylen ni ddisgwl ei gael o ran gofal yn yr oes sydd ohoni.
“Maen nhw (Llywodraeth Cymru) wostod yn cyfeirio at y man cychwyn, at adnabod arwyddion cancr mor fuan â phosib. Ond y’n ni ar yr ochor arall ac yn byw gyda fe a mae angen iddyn nhw gyfeirio at be sy’n digwydd ar ôl hynny ac ar ôl gorffen y driniaeth.”
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw’n cyhoeddi Strategaeth Ganser Genedlaethol yn y flwyddyn newydd i “sicrhau mwy o gysondeb a gwell amseroldeb ar draws llwybrau canser."
Prinder radiolegwyr
Mae cyfrifiad blynyddol Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn dangos bod y gweithlu radioleg yng Nghymru wedi tyfu 5.4% ers 2020 - y twf cyflymaf o holl wledydd Y Deyrnas Unedig. Ond mae yna brinder o hyd, gyda diffyg o 22% o radiolegwyr clinigol yn y de a bron i ddwbwl hynny yn y gogledd a’r gorllewin sef 42%.
Mae radiolegwyr yn gyfrifol am ddehongli sganiau cleifion, sydd yn hanfodol ar gyfer diagnosis a chynllunio a chyflwyno triniaeth.
Yn ôl Dr Sian Phillips mae’r prinder yn bryder sy’n codi bob blwyddyn.: “Dydyn ni ddim wedi dod mas o’r broblem 'ma. Does gyda ni ddim digon o radiolegwyr i greu yr adroddiadau hyn. Mae’n dal i fod yn broblem felly mae ishe rhagor o radiolegwyr i wneud siwr ein bod yn creu yr adroddiadau hyn fel nad ydi cleifion yn dishgwl yn hir.”
Fel radioleydd, mi fyddai Dr Sian Phillips yn hoffi gallu adrodd ar sganiau canser o fewn pum niwrnod.
"Ddyle fod hwnne yn realistig. Dwi’n credu fod pob un sy’n gwneud radioleg yn cydnabod 'ny. Ond gan fod problem gyda’r gweithlu, dyw e ddim yn realistig,” meddai
Mae elusen Ymchwil Canser Cymru hefyd yn poeni am brinder radiolegwyr ac yn cefnogi’r ddeiseb.
Yn ôl Iwan Roberts o’r elusen, “mae yna broblem yng Nghymru ar hyn o bryd sef bod yna ddiffyg radiolegwyr. Mae angen mynd i’r afael â hynny. Mae’n broblem ddifrifol.”
“Mi fuasai cyflwyno’r rheol 5 diwrnod yn fanteisiol iawn i unrhyw un sy’n derbyn profion canser a rheini sydd angen triniaeth."
“I bobl sydd angen triniaeth bellach, mi fyddan nhw’n cael gwybod yn gynt ac mewn egwyddor yn medru dechrau triniaeth yn gynt ac i’r rheini sydd wedi cael profion clir, mi fyddan nhw’n cael y tawelwch meddwl o wybod bod y profion yna yn glir.”
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Bydd Strategaeth Ganser Genedlaethol Cymru yn sicrhau mwy o gysondeb a gwell amseroldeb ar draws llwybrau canser, gan gefnogi diagnosis cynharach a mynediad amserol at driniaeth."
“Mae’r strategaeth ganser 10 mlynedd yn cael ei datblygu ochr yn ochr â strategaeth weithlu hirdymor ar gyfer GIG Cymru yn ehangach, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y flwyddyn newydd.”