11,000 o swyddi Poundland mewn perygl wedi i'r cwmni benodi gweinyddwyr
Mae'r gadwyn siopau Poundland wedi cyhoeddi fod gweinyddwyr wedi cael eu penodi, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd am ddyfodol y cwmni.
Mae'r newyddion yn rhoi 11,000 o swyddi gweithwyr Poundland yn y fantol mewn 600 o siopau ar hyd a lled y DU.
Dywedodd perchnogion Poundland, cwmni Gordon Brothers, mewn datganiad: “Yn anad dim, mae ein meddyliau gyda chydweithwyr Poundland.
"Rydym yn cydnabod pa mor anodd yw’r ansicrwydd parhaus iddynt.
“Bydd ymdrechion i ddiogelu cymaint o swyddi a siopau â phosibl yn parhau, dan arweiniad y gweinyddwyr.”
Mynnodd y cwmni ei fod wedi “archwilio pob posibilrwydd i sicrhau gwerthiant o’r cwmni cyfan”, ond dywedodd fod y gadwyn wedi “wynebu sawl blwyddyn o ansefydlogrwydd”.
Ychwanegodd y llefarydd: “Gyda chefnogaeth Gordon Brothers, gweithiodd y tîm rheoli a’r cydweithwyr yn Poundland yn galed dros y 12 mis diwethaf i wella perfformiad sylfaenol y busnes ac i sicrhau arbedion costau o £100 miliwn.
“Er gwaethaf sylfaen costau is, wrth edrych i’r dyfodol, mae’r busnes yn parhau i fod yn agored i bwysau chwyddiant neu unrhyw ostyngiad mewn gwerthiant ac elw.
“Rydym yn cydnabod, ac yn ddiolchgar am, yr holl waith caled a’r ymdrech a wnaed gan y tîm rheoli a’r cydweithwyr drwyddi draw.”
'Pryder mawr'
Yn dilyn cyhoeddi'r newyddion, dywedodd llefarydd ar ran y gweinyddwyr AlixPartners: “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod sy’n achosi pryder mawr i bawb sy’n gysylltiedig - cwsmeriaid, cyflenwyr ac, yn enwedig, cydweithwyr yn Poundland.
“Ein blaenoriaeth nawr yw gweithio gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r llywodraeth ac USDAW, wrth i ni nodi’r ffordd orau bosibl ymlaen.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn caffael y busnes, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, yn ogystal â gweithredwyr manwerthu yn y DU sydd â swyddi gwag, i gysylltu â’r gweinyddwyr.”
Cyn y cyhoeddiad ddydd Mercher, roedd Gordon Brothers wedi wynebu pwysau gwleidyddol i ddiogelu dyfodol y gadwyn siopau.
Roedd aelodau seneddol yn San Steffan wedi eu cyhuddo o dorri cyllid yn fwriadol a gwthio’r manwerthwr i’r dibyn.
Galwodd y Prif Weinidog, Andy Burnham, ar swyddogion i gydweithio gyda’r Llywodraeth i ddod o hyd i atebion er mwyn achub siopau a swyddi.
