Aros tan 2030 i gynnal dros 500 o achosion yn llysoedd Cymru a Lloegr
Mae dros 500 o achosion cyfreithiol yn wynebu disgwyl tan 2030 nes eu bod yn cael eu clywed yn llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ffigyrau newydd.
Maen nhw ymhlith bron i 10,000 o achosion na fydd yn dechrau tan 2028 ar y cynharaf, gan gynnwys dros 1,000 sy'n ymwneud â honiadau o dreisio.
Dywedodd y Comisiynydd Dioddefwyr, Claire Waxman, ei bod wedi siarad â dioddefwyr sy'n gorfod aros naw mlynedd rhwng riportio trosedd a chael eu diwrnod yn y llys.
Mae hi wedi rhybuddio bod hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder ar fin cyrraedd pen ei dennyn.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei bod yn buddsoddi'r swm mwyaf erioed o arian ac yn cyflwyno diwygiadau er mwyn lleihau nifer yr achosion sy'n cronni.
Amserlennu
Mae'r ffigyrau yn dangos nifer yr achosion llys oedd wedi'u hamserlennu ar 5 Hydref 2026.
Roedd disgwyl i 23,884 o achosion gael eu cynnal yn 2027, gyda 6,964 yn 2028, 2,370 yn 2029 a 555 yn 2030.
'Nôl ym mis Ionawr eleni, dim ond 29 o achosion oedd wedi'u hamserlennu ar gyfer 2030.
Ymhlith yr achosion sydd i'w cynnal yn 2030 mae 216 yn ymwneud â chyffuriau, 83 yn ymwneud â thrais yn erbyn unigolyn a 58 yn ymwneud â meddu ar arfau.
Mae pump o achosion yn ymwneud â throseddau rhywiol, gan gynnwys un sy'n ymwneud â honiad o dreisio.
Dywedodd y Comisiynydd Dioddefwyr, Claire Waxman, fod miloedd o ddioddefwyr a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn wynebu "cost ddynol yr oedi".
"Mae canlyniadau'r oedi yn y llysoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ystafell y llys," meddai.
"Pan fydd dioddefwyr yn cael eu gorfodi i aros blynyddoedd am gyfiawnder, mae llawer yn colli hyder ac yn tynnu'n ôl yn llwyr.
"Mae hynny'n golygu llai o erlyniadau, llai o euogfarnau, a mwy o risg y bydd troseddwyr peryglus yn aros yn ein cymunedau."
Fe wnaeth hi alw am ddiwygiadau brys i'r system er mwyn lleihau'r oedi.
Roedd ffigyrau ar wahân a gafodd eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym mis Medi yn dangos bod 80,829 o achosion yn aros i gael eu clywed yn llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr ddiwedd mis Mehefin, y nifer uchaf erioed.
Mae'r nifer bron wedi dyblu mewn chwe blynedd, gyda 43,403 o achosion yn aros i gael eu clywed ddiwedd mis Mehefin 2020.
'Oedi annerbyniol'
Dywedodd cadeirydd Cyngor y Bar, Kirsty Brimelow KC, fod degawdau o doriadau i gyllid y system cyfiawnder troseddol wedi arwain at oedi "annerbyniol".
"Mae'n warthus i achwynwyr, dioddefwyr, diffynyddion a thystion," meddai.
"Rydym yn parhau i annog y llywodraeth i ganolbwyntio ar fesurau a fydd yn lleihau'r oedi yn llysoedd y Goron, yn hytrach na dargyfeirio amser a sylw at orlwytho'r llysoedd ynadon."
Fis diwethaf, fe wnaeth y Prif Weinidog Andy Burnham roi'r gorau i gynlluniau i leihau nifer yr achosion gyda rheithgor, yn dilyn gwrthwynebiad i'r cynigion.
Roedd y cynlluniau wedi cael eu cyflwyno pan oedd Syr Keir Starmer yn Brif Weinidog mewn ymgais i leihau'r ôl-groniad.
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Fe wnaethom etifeddu system llysoedd oedd ar fin dymchwel, gan adael dioddefwyr yn wynebu oedi annerbyniol.
"Rydym yn cydnabod y gall oedi fel hyn beri gofid mawr i ddioddefwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â diffynyddion sy'n aros am gyfiawnder.
"Dyna pam rydym yn gweithredu ym mhob maes, gyda buddsoddiad ariannol ar lefel ddigynsail, moderneiddio'r system a diwygiadau strwythurol pragmatig drwy'r Bil Llysoedd a Thribiwnlysoedd, er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad yn llysoedd y Goron a sicrhau cyfiawnder yn gynt i bawb."
Dywedodd y weinyddiaeth hefyd fod Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar y cyfyngiad ariannol ar nifer y diwrnodau y gall llysoedd y Goron eistedd yn ystod 2026/27.
Mae'r llywodraeth hefyd yn buddsoddi £550m mewn gwasanaethau i ddioddefwyr dros y tair blynedd nesaf.
