Disgwyl cyhoeddi rheolau llymach am roddion gwleidyddol o dramor
Fe fydd yn rhaid i fusnesau brofi fod ganddyn nhw "gysylltiad gwirioneddol" â'r DU cyn eu bod nhw'n gallu cyfrannu at bleidiau gwleidyddol o dan reolau newydd fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.
Mae'r mesurau newydd yn rhan o ymdrech i gael rheolau llymach ar gyllid gwleidyddol er mwyn atal arian tramor rhag dylanwadu ar ddemocratiaeth Prydain.
Fe fydd yn rhaid i gwmnïau ddangos fod eu pencadlys yn y DU, a bod mwyafrif y cwmnïau yn eiddo i, neu o dan reolaeth dinasyddion neu etholwyr Prydeinig ac wedi cynhyrchu digon o refeniw i dalu am y rhodd.
Ar hyn o bryd, mae busnesau sydd wedi eu cofrestru yn y DU yn gallu rhoi arian i bleidiau gwleidyddol hyd yn oed os ydyn nhw yn eiddo i ddinasyddion tramor ac heb gynhyrchu digon o refeniw i dalu am y rhodd.
Mae Transparency International wedi rhybuddio yn y gorffennol y gallai'r rheolau presennol olygu y gallai pleidiau'r DU brofi "ymyrraeth dramor".
Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod achosion diweddar gan gynnwys achos Nathan Gill yn dangos yr angen am "weithredu cryf".
Fe gafodd Gill, a oedd yn gyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, ei garcharu am 10 mlynedd a hanner am dderbyn llwgrwobrwyon gan unigolion oedd â chysylltiadau gyda Rwsia.
Roedd gweithgareddau Gill ar ran Rwsia yn cynnwys gwneud datganiadau o blaid Rwsia am ddigwyddiadau yn Wcráin yn Senedd Ewrop ac mewn erthyglau barn i gyhoeddiadau fel 112 Ukraine, dros gyfnod o chwe mis rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.
Cafodd Gill ei eni yn Lloegr, ond symudodd ei deulu i Ynys Môn pan oedd yn blentyn. Aeth i Ysgol Gynradd Llannerch-y-medd ar yr ynys.
Roedd wedi bod yn ymwneud ag UKIP ers 2004 ac wedi gwasanaethu fel aelod o Senedd Ewrop yn enw'r blaid ac yn ddiweddarach i Blaid Brexit, o 2014 i 2020.
Roedd yn arweinydd Ukip Cymru rhwng 2014 a 2016, a gwasanaethodd hefyd fel aelod o Gynulliad Cymru am 18 mis rhwng 2016 a 2017.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Steve Reed y byddai'r bil yn "cyflwyno cyfnod newydd yn ein democratiaeth - un sydd yn amddiffyn yn erbyn ymyrraeth dramor ac ymbweru pobl ifanc".
