Digwyddiad newydd yn ceisio annog talent i ddychwelyd i Gymru o Glawdd Offa
Digwyddiad newydd yn ceisio annog talent i ddychwelyd i Gymru o Glawdd Offa
Ym mhrysurdeb Llundain, mae criw o Gymry’n dod ynghyd gyda’r un nod – creu cymuned a chadw’r cysylltiad yn fyw rhwng y brifddinas a’u mamwlad.
Noson Scratch Cymru yw’r man cyfarfod hwnnw – gofod i bobl yn y maes creadigol berfformio, rhannu syniadau a chefnogi ei gilydd. Ond mae’r noson yn fwy na digwyddiad; mae’n ddatganiad o fwriad.
Yn ôl Sam Davies, un o’r trefnwyr, gall bywyd yn Llundain fod yn unig i Gymro, yn enwedig i artist.
“Mae’n bwysig pan ti’n byw yn Llundain – mae’n gallu teimlo bach yn unig fel Cymro ac yn enwedig fel artist. Mae’n anodd ffeindio dy gartref, felly bwriad creu Scratch Cymru oedd creu rhyw fath o gymuned," meddai.
“Fi’n credu mae’n bwysig cadw’r linc rhwng Llundain a Chymru. Ni moyn y talent bod fan hyn yn unig, ond hefyd ni moyn i’r talent fynd yn ôl. A ni moyn dod â thalent o Gymru i Lundain i roi enw ni ar y map.”
Mae’r daith actio yn aml yn arwain at Lundain – cartref y West End a chanolfan y diwydiant theatr Prydeinig. Ond er bod y cyfleoedd yn helaeth, mae llawer yn awyddus i weld mwy o lwybrau gyrfa yn agor yng Nghymru ei hun.
Dywed yr awdur a pherfformiwr Roisin Bonar fod y rhan fwyaf o’i chyfleoedd hi wedi bod yn Lloegr.
“Mae pob cyfle fi ’di cael bron wedi bod yn Lloegr, o ran ’sgwennu fi. Fi’n siŵr bod sawl cyfle gwahanol yn mynd ymlaen yng Nghymru, ond ambell waith sai’n ymwybodol ohonyn nhw," meddai.
Mae’r heriau ariannol yn real iawn i’r sector celfyddydol yng Nghymru.
Yn ôl Steffan Donnelly, cyd-Brif Weithredwr Theatr Cymru mae’r hinsawdd ariannol bresennol yn creu pwysau sylweddol.
“Mae o’n her – mae sbinio’r platiau yna i gyd yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni yng Nghymru ar hyn o bryd yn heriol iawn. Dwi’n gobeithio fydd ’na fwy o gefnogaeth ariannol yn dod dros y blynyddoedd nesaf er mwyn hybu gyrfaoedd ac er mwyn sicrhau bod gennym ni ddiwylliant sy’n wydn," meddai.
Mae costau wedi cynyddu’n sylweddol, meddai, tra bod lefelau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi aros bron yn llonydd ers 2009. Mae hynny’n rhoi pwysau aruthrol ar gwmnïau creadigol ledled y wlad.
Serch hynny, mae llawer yn parhau i wneud y gorau o’r sefyllfa drwy reolaeth gadarn a chydweithio.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cymru Greadigol yn cefnogi talent drwy gyllid, datblygu sgiliau a chysylltu’r diwydiant. Mae’r sector creadigol yn cynnal dros 38,000 o swyddi ac wedi creu dros 600 o brentisiaethau a lleoliadau hyfforddi hyd yma.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru fod adolygiad diweddar o theatr Saesneg yng Nghymru wedi dangos pwysigrwydd creu mwy o lwybrau clir i dalent newydd.
Maent hefyd yn ail-edrych ar eu system grantiau i sicrhau ei bod yn addas i’r diben ac yn annog creadigrwydd yn y ffordd orau bosibl.
Er bod Llundain yn llwyfan i lawer o dalentau Cymru, mae’r awydd i ddychwelyd adref yn gryf.
I lawer, nid dewis rhwng dau le yw hi – ond pont rhwng y ddau. A thrwy fentrau fel Noson Scratch Cymru, mae’r bont honno’n cael ei chryfhau, noson wrth noson.