Degawd ers pleidlais Brexit: Y dadlau'n parhau

Brexit

Ddeng mlynedd ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae refferendwm hanesyddol Brexit yn parhau i hollti barn.

Ddydd Iau, 23 Mehefin 2016, fe wnaeth dros 33 miliwn o bobl ar draws y DU fwrw eu pleidlais i benderfynu a fyddai’r wlad yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Y diwrnod ar ôl y bleidlais, cyhoeddwyd y canlyniad fod 51.89% o bobl wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda 48.11% yn dymuno aros.

Gyda thîm pêl-droed Cymru yn serennu ar lwyfan Euro 2016 ar y pryd, pleidleisiodd y mwyafrif yng Nghymru — sef 52.53% o bleidleiswyr — dros adael.

Ymddiswyddodd y Prif Weinidog Ceidwadol David Cameron yn dilyn y refferendwm, ac wedi i’w olynydd Theresa May fethu â sicrhau sêl bendith Tŷ'r Cyffredin i'w chytundeb ar adael, fe wnaeth hi hefyd ymddiswyddo a gadael Rhif 10 Downing Street yn 2019.

Gadawodd y wlad yr Undeb ar 31 Ionawr 2020 — bron i bedair blynedd ar ôl y bleidlais — dan arweiniad Boris Johnson.

Ar ôl gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau, roedd yn rhaid creu trefniadau newydd ar gyfer masnachu â gwledydd Ewrop ac ar gyfer rheoli’r ffin.

Roedd y trefniadau ynghylch Protocol Gogledd Iwerddon hefyd yn rhwystr sylweddol yn ystod y trafodaethau.

Image
Cameron
David Cameron

Beth yw’r farn heddiw?

Mae’r ffigurau diweddaraf gan YouGov yn awgrymu mai dim ond 30% o Brydeinwyr sydd bellach yn credu mai’r penderfyniad cywir oedd gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda 57% yn credu mai dyma oedd y penderfyniad anghywir.

Roedd chwech o bob 10 o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg — a gafodd ei gyhoeddi ar ddechrau mis Mehefin — yn credu bod Brexit wedi bod yn fethiant, gyda’r Ceidwadwyr a Boris Johnson yn cael eu hystyried yn gyfrifol am hynny.

Dywedodd 55% y bydden nhw’n cefnogi ail-ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 35% oedd o blaid gwneud hynny pe bai’r DU yn ail-ymuno heb yr eithriadau a oedd ganddi yn flaenorol, gyda 43% yn gwrthwynebu.

Image
Prif Weinidog y DU, Boris Johnson
Boris Johnson

Y dadlau'n parhau

Ddydd Mawrth, fe wnaeth y gweinidog Cabinet ac AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds, ddweud bod safbwynt arweinydd Reform UK, Nigel Farage, ar Ewrop yn “fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol”.

Fe wnaeth ymosod ar Mr Farage dros sylwadau blaenorol arweinydd Reform UK am Wcráin, gan ei gyhuddo o fod wedi “cefnogi Rwsia yn gyson”.

Wrth ysgrifennu yn y Telegraph, dywedodd: “Mae wedi datgan yn 2014 ‘rwy’n credu bod gwaed ar ddwylo’r Undeb Ewropeaidd, a bod yn onest, yn Wcráin’, wedi dweud nad oedd eisiau ‘polisi tramor Ewropeaidd’, ac wedi awgrymu yn 2024 bod ‘ehangu tua’r dwyrain’ gan Nato a’r UE wedi rhoi rheswm i Putin ‘fynd i ryfel’.

“Mae’n ymddangos mai ei resymeg dros wneud hynny, yn y pen draw, oedd tanseilio’r Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd: “Byddai caniatáu i olwg ar y byd sy’n cydymdeimlo â Putin feddu ar rym yn fygythiad digynsail i ddiogelwch cenedlaethol.”

Yn y cyfamser, honnodd Nigel Farage fod y Llywodraeth wedi methu â chyflawni’r “rhyddid” a gynigiwyd gan Brexit ddegawd yn ôl.

Dywedodd fod y cyn-brif weinidog Boris Johnson, arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch a’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi methu â deall y “mannau anghofiedig” ar draws y wlad a oedd wedi dymuno cael “bargen decach”.

Dywedodd Mr Farage, sy’n AS dros Clacton, fod San Steffan wedi methu dro ar ôl tro â gwrando ar bobl a oedd wedi gofyn i San Steffan “gymryd rheolaeth dros ein ffiniau, cymryd rheolaeth dros ein cyfreithiau, a chyflawni’r twf yr oedd dirfawr angen amdano arnyn nhw”.

Mewn neges ar ei Substack sydd i fod i gael ei chyhoeddi am 10.00, mae’n dweud: “Rwyf wastad wedi dweud bod Brexit yn gam angenrheidiol tuag at achub y wlad. Ond ar ei ben ei hun, nid yw’n agos at fod yn ddigon. 

“Mae angen llywodraeth arno a fydd yn cyflawni ar y rhyddid a roddodd i ni er mwyn codi ein pennau’n ôl uwchben y dŵr. Mae angen llywodraeth arno a fydd yn gwrando.

“Mae’r dicter a’r rhwystredigaeth y mae pobl Prydain yn eu teimlo, y dicter a’r diffyg ymddiriedaeth yn nosbarth gwleidyddol San Steffan, yn ganlyniad i fethiant llwyr yr un dosbarth gwleidyddol hwnnw i wrando.

“Cafodd y dyheadau hyn eu hanwybyddu. Ac felly hefyd optimistiaeth pleidlais 2016.”

Image
Nigel Farage
Arweinydd Reform, Nigel Farage

Beth mae’r pleidiau’n ei ddweud nawr?

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts AS: "Dros y degawd diwethaf, rydym wedi profi ansefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd sylweddol, a does dim modd gwadu’r ffaith bod Brexit wedi chwarae rhan ganolog yn hynny.

"Gwir etifeddiaeth Brexit yw bod cartrefi yn wynebu costau uwch am eu hanfodion, mae pobl ifanc wedi cael eu amddifadu o gyfleoedd i astudio, byw a gweithio dramor - gan gulhau eu gorwelion. Ar yr un pryd, mae diwydiannau allweddol yn cael eu dal yn ôl oherwydd y biwrocratiaeth gynyddol. Yng Nghymru, rydym yn gwybod fod Brexit wedi costio o leiaf £4 biliwn i’n heconomi, gydag gostyngiad o £1.1 biliwn yn ein hallforion."

Ychwanegodd: "Mae Plaid Cymru wedi galw’n gyson am gysylltiadau agosach â’n cymdogion Ewropeaidd i sicrhau ffyniant economaidd hirdymor.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau pendant ac ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau fel y man cychwyn i atgyweirio’r niwed a achoswyd."

Mae llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, David Chadwick AS, yn dweud ei bod yn “amlwg nad yw Brexit wedi gwella bywoliaeth pobl nac wedi helpu i ddatrys unrhyw un o’r problemau y mae Cymru’n eu hwynebu fel cenedl”.

“Mae Cymru wedi bod yn un o rannau’r DU a gafodd eu taro galetaf gan Brexit, gyda’n heconomi’n talu’r pris am ddegawd o addewidion wedi’u torri,” meddai.

“Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae’n rhaid i Nigel Farage a Reform UK ateb am y difrod y mae Brexit wedi’i wneud i Gymru.”

Ychwanegodd fod y blaid yn parhau i gredu bod “dyfodol Prydain a Chymru wrth wraidd Ewrop”.

“Dyna pam rydyn ni’n galw ar y DU i ailymuno â’r farchnad sengl ar unwaith, gan hybu twf a thorri costau i deuluoedd a busnesau, fel y cam cyntaf tuag at ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn y pen draw ac ailadeiladu’r cyfleoedd a gafodd eu cymryd oddi wrth genhedlaeth,” meddai.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r Ceidwadwyr am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.