Cywaith Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw Jones yn ennill Medal y Dramodydd

Medal y Dramodydd

Cywaith rhwng Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw Jones sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Medal y Dramodydd yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd.

Roedd 18 cais i gyd eleni, ond ‘Cwch Gwenyn’ gan Ymlaen oedd yn fuddugol.

Mae Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw Jones wedi bod yn ffrindiau ers iddyn nhw gyfarfod yng Nghymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd. 

Ar ôl graddio, ymunodd y ddwy gyda thîm merched Clwb Rygbi Cymry Caerdydd. 

Magwyd Lois yn ardal Llanuwchllyn, gan fynychu Ysgol O.M. Edwards ac Ysgol y Berwyn. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner, Chloe. 

Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Seicoleg, ac mae’n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mewn Uned Gwyddor Ymddygiad. Mae hefyd yn gerddor ac yn ysgrifennu yn ei hamser sbâr.

Yn wreiddiol o Gapel Seion, Cwm Gwendraeth, mae Mirain bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr, Trystan. 

Graddiodd o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac mae’n mwynhau chwarae rygbi gan ddilyn ôl traed ei thad, Iwan, yn ei hoffter o’r gêm.

Mae’n gweithio ar gyfres Pobol y Cwm fel golygydd sgriptiau.

Image
Drama
Ffion Dafis yn traddodi rhan o'r feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn

Drama 'ddoniol, realistig ac ystyrlon'

Dywedodd y feirniadaeth gyfansawdd am ‘Cwch Gwenyn’ gan Ymlaen: “Dyma ddrama ddoniol, realistig ac ystyrlon am fenyweidd-dra a’r heriau y mae menywod yn eu profi yn y Gymru gyfoes. 

"Deialog naturiol, gyda gwir ymgais i ni gael cynrychiolaeth o ran cefndir, agwedd, oed, rhywioldeb a phrofiad bywyd.  

“Mae’r syniad yn un cryf ac amserol, gyda strwythur clir a chymeriadau credadwy, yn enwedig Gog a Bica. Roedd y cymeriadau’n gryf a’u siwrneiau’n glir trwy gydol y ddrama. Mae’r defnydd o theatr gorfforol ar y cae yn effeithiol, gan bwysleisio’r gwrthgyferbyniad rhwng cyffro’r gêm a’r gwrthdaro."

Image
Drama
Y beirniaid ar ddechrau'r seremoni ddydd Iau

Ychwanegodd y feirniadaeth: “Mae’r ddrama fel sgript yn cynnig sgôp theatrig difyr a chreadigol i gyfarwyddwr. Mae’r themâu a drafodwyd yn rhoi pwysau moesol go iawn i’r stori. Roedd y cyflwyniad yn un cyflawn, yn dangos dylanwadau’r awdur, ôl ymchwil a phrofiad, ac yn cynnig potensial am ddrama dda.

“Roedd rhai o’r beirniaid yn teimlo ei bod hi ychydig yn rhy debyg i’r rhaglen deledu Amdani, ac yn cwestiynu a oedd hi’n rhy gynnar i ystyried drama newydd wedi ei hysbrydoli ganddi. Gyda mwy o ddatblygiad mae’n bwysig cymryd gofal i sicrhau bod llais yr awdur yn datblygu i sefyll ar wahân.

“Rydym ni’n falch o gyhoeddi mai’r ddrama ‘Cwch Gwenyn’ sydd yn dangos y potensial cryfaf yn y gystadleuaeth.”

Mae’r Fedal yn rhodd er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan Wiliam.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.