Sir Gâr: Dyn i ymddangos yn y llys wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad yn 2024

Alice Smith

Mae dyn wedi derbyn gorchymyn i ymddangos yn y llys i wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus wedi i fenyw 31 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr yn 2024.

Bu farw Alice Smith, a oedd yn reidio beic ar ffordd y B4306 rhwng Hendy a Llannon, ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth 2024 yn dilyn gwrthdrawiad â char Seat Ibiza coch.

Bydd Connor Clive Rees, 22 oed, o Fancffosfelen yn wynebu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus pan y bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ar ddydd Iau 3 Medi.

Mewn teyrnged a gafodd ei rhannu ar y pryd, dywedodd ei theulu bod colli Alice wedi gadael “twll enfawr yn ein bywydau a bywydau pawb oedd yn ei hadnabod.”

“Roedd Alice yn hyfforddi ar gyfer triathlon yn Barcelona yn ddiweddarach eleni ac roedd ar ei ffordd i Langyndeyrn pan fu farw.

"Roedd Alice hapusaf ymhlith ei ffrindiau agos, ei chydweithwyr a'i chylch marchogaeth. Roedd ganddi bob amser wên a gair caredig i ddweud am bawb roedd hi'n eu cyfarfod.

"Yn ogystal â’i hyfforddiant ar gyfer triathlonau a Iron Man, roedd Alice yn dechrau dod yn farchog dressage dawnus ac roedd ar fin cystadlu yn rowndiau terfynol Petplan gyda’i cheffyl annwyl Tess.

"Mae colli Alice wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau ni a bywydau pawb oedd yn ei hadnabod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.