Ethol Tudur Dylan Jones yn ddarpar Archdderwydd newydd Cymru

Ethol Tudur Dylan Jones yn ddarpar Archdderwydd newydd Cymru

Mae Tudur Dylan Jones wedi ei ethol yn ddarpar Archdderwydd newydd Cymru.

Roedd dau Brifardd, Tudur Dylan Jones a’r Athro Gerwyn Wiliams, yn cael eu hystyried gan yr aelodau.

Fe gafodd olynydd Mererid Hopwood ei ddewis gan aelodau’r Orsedd drwy bleidlais post, gyda’r canlyniad wedi ei gyhoeddi ar faes y Brifwyl ddydd Iau.

Fe gafodd canlyniad y bleidlais ei gyhoeddi yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Orsedd ym Mhabell y Cymdeithasau.

Bydd yr Archdderwydd etholedig yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa’r Pafiliwn ar ddechrau seremoni’r cadeirio ddydd Gwener, 7 Awst.

Ni fydd Mererid Hopwood yn trosglwyddo’r awenau yn swyddogol tan ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028.

Mae Tudur Dylan Jones wedi ennill sawl gwobr eisteddfodol, gan gynnwys y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 ac yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.

Roedd ei dad, y Prifardd John Gwilym Jones, yn archdderwydd rhwng 1993 a 1996, a’i ewythr, T. James Jones, yn archdderwydd rhwng 2009 a 2013.

Rhagor i ddilyn...

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.