Mynyddwr profiadol wedi marw ar ôl disgyn 100 troedfedd ar Grib Goch

Adrian Gerard McAnarney

Mae cwest yng Nghaernarfon wedi clywed fod mynyddwr profiadol wedi marw ar ôl disgyn 100 troedfedd ar Grib Goch yn Eryri ar ddechrau'r mis.

Roedd Adrian Gerard McAnarney yn 57 oed ac yn dod o Katesbridge, Sir Down, yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd ei eni ym mis Chwefror 1966 ac roedd yn saer coed wrth ei waith. 

Roedd wedi bod yn cerdded mynyddoedd ers degawd.

Wrth agor y cwest i'w farwolaeth fore dydd Iau, dywedodd Sarah Riley, crwner cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, fod Mr McAnarney wedi teithio gyda chriw o ffrindiau i ogledd Cymru ar gyfer gwyliau cerdded.

Roeddynt yn aros yn Llanberis ar y pryd.

Am 11:25 ar ddiwrnod y farwolaeth fe dderbyniodd Heddlu Gogledd Cymru alwad gan y Gwasanaeth Ambiwlans.

"Roedd dyn wedi disgyn 100 troedfedd o grib Garnedd Ugain, ac roedd angen cymorth gan dîm achub mynydd a hofrennydd o achos safle'r dyn oedd wedi ei anafu," meddai'r crwner cynorthwyol.

Cafodd marwolaeth Mr McAnarney ei chadarnhau am 12:50 gan Paul Jones, parafeddyg a swyddog winsh ar hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

"Cafodd ei adnabod yn ffurfiol gan PC Kelly drwy dystiolaeth lluniau a dogfennau," ychwanegodd Sarah Riley.

"Cafodd archwiliad post-mortem ei orchymyn, ac fe gafodd ei gynnal gan Dr Aslam yn Ysbyty Glan Clwyd ar y 6ed o Awst."

Canfyddiad cychwynnol achos marwolaeth Mr McAnarney oedd ei fod wedi marw o nifer o anafiadau gwasgu.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.