'Dim modd mesur ei dylanwad': Noson i ddathlu bywyd yr arweinydd corawl Sioned James
'Dim modd mesur ei dylanwad': Noson i ddathlu bywyd yr arweinydd corawl Sioned James
Fe fydd noson i ddathlu bywyd y cerddor a'r arweinydd corawl Sioned James yn cael ei chynnal ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las nos Iau.
Bu farw Sioned James yn 41 oed yn 2016.
Roedd gwreiddiau Sioned yn ddyfn yn ardal Llandysul yng Ngheredigion, gyda cherddoriaeth yn rhan ganolog a phwysig o'i bywyd o oed ifanc.
Cafodd Sioned ei dylanwadu yn gryf yn y byd cerddorol gan ei hathro cerddoriaeth a sylfaenydd Ysgol Gerdd Ceredigion, Islwyn Evans.
Wedi iddi symud i Gaerdydd i'r brifysgol, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg, fe aeth Sioned ati yn ddiweddarach i sefydlu Côrdydd.
Roedd hefyd yn gweithio ym myd y cyfryngau, ac yn asiant proffesiynol.
Fe fydd noson arbennig yn cael ei chynnal ym mhabell Encore nos Iau, gyda Betsan Powys yn cadeirio trafodaeth am ddylanwad a chyfraniad Sioned i’r byd corawl yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd Heledd Cynwal, Islwyn Evans a Huw Foulkes hefyd yn rhan o'r noson, gyda pherfformiadau gan Gôrdydd o rai o’r caneuon a gyflwynodd Sioned i’r byd corawl yng Nghymru.
Wrth siarad â Newyddion S4C , dywedodd Heledd Cynwal: "Nes i gwrdd â Sioned am y tro cynta’ ‘rioed pan o’n i tua 11 oed yn Glan Llyn a ti’mod pan y’t ti’n gweld ac yn synhwyro enaid hoff cytûn, o’dd hi’n un o’r rheiny, nethon ni glico yn syth, a fuon ni’n ffrindie penna’ ers ‘ny.
"O’n i’n forwyn briodas iddi hi, o’dd hi’n forwyn briodas i fi, hi hefyd o’dd mam bedydd Gwern, ein mab cyntaf ni, ag ie, yn ffrindie pennaf felly na, atgofion melys iawn ohoni hi."
Roedd Huw Foulkes yn aelod o gôr Côrdydd o dan arweiniad Sioned, ac ef yw arweinydd presennol y côr.
"Yn sicr, na’th hi godi safon canu corawl yng Nghymru, dwi’n meddwl be’ ma’ hi wedi neud ydi cyflwyno corau Cymru i repertoire tu hwnt i’r arfer ‘falla," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi’n meddwl pan o’dd Sioned yn arwain Côrdydd, do’dd hi byth yn mynd am y dewis saff o ran cerddoriaeth o Gymru drwy’r amser, mi o’dd hi yn mynny herio, ag o’dd hi yn creu’r cysylltiadau ‘ma efo cyfansoddwyr byd-enwog."
Y bwriad nos Iau yw dathlu bywyd Sioned yn ôl Huw Foulkes.
"‘Dan ni ‘di penderfynu galw’r noson yn ‘Dathlu Sioned James’ achos ma’ ‘na ddegawd ers i ni golli Sioned, ond ma’ rywun dal i deimlo ei phresenoldeb hi mewn ffordd o ran canu corawl yng Nghymru a’r stamp a’r dylanwad yna ma’ hi wedi roi ar ganu corawl, fwy ‘falla yn yr wythnos sydd ohoni yn y ’Steddfod.
"Pan ‘dan ni’n clywed gymaint o gorau anhygoel yn perfformio yma a chymaint o gorau yn perfformio trefniannau na’th Sioned eu comisiynu.
"‘Gad i'r Ddaear Droi’ yn un ‘dan ni’n clywed dro ar ôl tro, ma’ ‘na gorau ’di perfformio medli Ryan Davies ac yn y blaen, felly syniadau Sioned a dwi’n meddwl bod ei dylanwad hi wedyn jyst yn rhywbeth wir dwi’m yn meddwl allwn ni fesur mewn gwirionedd."
Ychwanegodd Heledd Cynwal: "Fi’n credu bod hi mor bwysig deng mlynedd ar ôl i ni golli Sioned, bo’ ni yn cofio amdani hi, fi’n meddwl am Islwyn Evans wedi ennill Gwobr Syr TH Parry-Williams ‘leni, rywun ga’th ddylanwad enfawr ar Sioned, ond o’dd e hefyd yn gweud bod hi’n cael dylanwad arno fe.
"Wy’n meddwl bod e mor weddus hefyd, o’dd Trefdraeth mor agos at ei chalon a’i gwreiddie, a chysylltiad cryf lawr yr hewl felly mae e’n teimlo’n iawn, mae’n teimlo’n hollol gywir."